Die Son

Oddi ar Wicipedia
Die Son
Enghraifft o'r canlynolpapur newydd Edit this on Wikidata
IaithAffricaneg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2003 Edit this on Wikidata
PencadlysTref y Penrhyn Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.dieson.com Edit this on Wikidata
Murlun yn swyddfeydd Die Son yn Nhref y Penrhyn (Capetown)

Papur newydd dyddiol yn yr iaith Afrikaans yw Die Son ('Haul y Penrhyn' yn Afrikaans); yr enw gwreiddiol yn 2003 oedd Kaapse Son a sefydlwyd gan gwmni cyhoeddi Naspers fel papur wythnosol, tabloid ar gyfer talaith y Penrhyn Orllewinol (neu'r Western Cape yn Ne Affrica). Cyhoeddir y papur yn Nhref y Penrhyn (Afrikaans: Kaapstad).

Cymaint oedd llwyddiant y papur fel y bu iddo droi'n ddyddiol yn 2005. Mae ei gynnwys yn debyg i bapur tabloids 'y Sun' yn Saesneg - mae'r papur yn cynnwys lluniau o ferched bronnoeth ar dudalen 3. Rhoddir y pwyslais ar newyddion 'sensesional', chwaraeon a thrafferthiol personol. Mae bellach yn un o bapurau newydd uchaf ei gwerthiant yn Ne Affrica mewn unrhyw iaith.

Mae ychydig dros hanner darllenwyr y papur yn Kaapse Kleurling (y De Affricanwyr 'Lliw'; Cape Coloured) sy'n siarad Afrikaans fel iaith gyntaf a'r gweddill yn wyn.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]