Dewi Emrys
Bardd o Dde-Orllewin Cymru oedd Dewi Emrys (David Emrys James, 1881-1952). Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol bedair gwaith, ac yn sgil ei lwyddiant yn y gystadleuaeth newidiwyd rheolau'r Eisteddfod i atal beirdd rhag ennill y Gadair na'r Goron fwy na dwywaith.[1]
Cynnwys |
Bywyd Cynnar [golygu]
Ganed David Emrys James yn Majorca House, Ceinewydd, Ceredigion ar 28 Mai 1881. Ei dad oedd y Parch Emrys James. Pan oedd Dewi yn wyth oed, symudodd y teulu i Rosycaerau, Sir Benfro, ac yno y treuliodd Dewi flynyddoedd ei ieuenctid cynnar. Aeth i'r ysgol ym Mhencaer ac Ysgol Ramadeg Jenkins Abergwaun cyn mynd fel prentis newyddiadurwr a chysodwr ar y County Echo yn y dre honno. Ar ôl marwolaeth ei dad, symudodd y teulu i Gaerfyrddin ac aeth Dewi i weithio ar y Carmarthen Journal. Yn 1903, fodd bynnag, aeth i Goleg Presbyteraidd a dilyn llwybr ei dad i'r weinidogaeth.
Dewi'r Pregethwr [golygu]
Ar ôl cyfnod fel gweinidog yn Nowlais derbyniodd Dewi alwad gan Eglwys Saesneg Bwcle, Sir y Fflint, yn 1908 Yn yr un flwyddyn, priododd â Cissie Jenkins, merch o Gaerfyrddin. Ym Mwcle ganwyd dau fab i'r teulu, Alun a Gwyn. Yn 1911, symudodd y teulu i Bontypridd. Yno cyrhaeddodd Dewi ei binacl fel pregethwr, ac ennill enw iddo'i hun drwy Gymru fel pregethwr penigamp, ond yna hefyd dechreuodd y problemau ariannol a phersonol a fyddai'n ei ddilyn am weddill ei oes. Ar ôl i'r teulu symud i Llundain yn 1915 aeth y problemau yn drech na Dewi, a gadawodd ei deulu a'i eglwys yn 1917 gan ymuno â'r fyddin.
Y Bardd a'r Crwydyn [golygu]
Ar ôl y Rhyfel Mawr, ceisiodd Dewi wneud bywoliaeth o'i newyddiaduriaeth drachefn. Er iddo werthu sawl darn i olygyddion Stryd y Fflyd, aeth pethau o chwith iddo, a threuliodd sawl noson dan y sêr ar lannau Tafwys. Cefnodd Cymry Llundain arno, y cyn-bregethwr oedd erbyn hyn i'w weld yn canu tu allan i'r eglwysi, ei gap yn y ddwylo.
Yn 1926, fodd bynnag, daeth tro ar fyd i Dewi, pan enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe gyda chasgliad o gerddi Rhigymau'r Ffordd Fawr. Yn yr un Eisteddfod, enillodd ar gystadleuaeth Darn o Farddoniaeth mewn tafodiaith gyda'r gerdd a fyddai'n dod yn un o'i weithiau mwya adnabyddus, "Pwllderi". Yn sgil ei lwyddiant, daeth ei wraig i chwilio amdano yn Abertawe, gan fod Dewi heb dalu tuag at gynnal ei deulu ers blynyddoedd. Fel canlyniad bu rhaid i Ddewi roi'r arian a enillwyd yn yr Eisteddfod i Cissie, casglu mwy gan ei ffrindiau, ac hyd yn oed rhoi ei goron newydd mewn pawn shop yn Abertawe.[2]
Aeth Dewi Emrys ymlaen i ennill y Gadair yn y Genedlaethol bedair gwaith, yn Lerpwl, 1929 ("Dafydd ap Gwilym"), Llanelli, 1930 ("Y Galilead"), Bangor, 1943 ("Cymylau amser"), a Phen-y-bont ar Ogwr 1948, ("Yr alltud").[3]
Aeth Dewi Emrys i fyw, gyda'i ferch Dwynwen, yn Y Bwthyn, Talgarreg, Sir Aberteifi yn 1941. Yn y fan honno treuliodd gweddill ei oes. Bu farw yn Aberystwyth yn mis Medi, 1952, a chafodd ei gladdu ym mynwent Capel Pisgah, ar bwys Talgarreg. Dywedodd ei gyfaill, y Prifardd T. Llew Jones am yr achlysur:
Bu farw Dewi Emrys yn ysbyty Aberystwyth ar Fedi'r 20fed 1952 a chladdwyd ef ym mynwent Pisgah, Talgarreg. Ychydig iawn o bobl a welodd yn dda i ddod i'r angladd. Yn wir, roedd y capel yn hanner gwag.[1]
Llyfryddiaeth [golygu]
Barddoniaeth
- Rhigymau'r ffordd fawr (1926)
- Rhymes of the road (1928) (yn Saesneg)
- Y Cwm Unig (1930)
- Cerddi'r Bythyn (1948)
Eraill
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ 1.0 1.1 "DEWI EMRYS JAMES (1881-1952)", Seren Tan Gwmwl (dim dyddiad)
- ↑ Dewi Emrys, Eluned Phillips
- ↑ Y Bywgraffiadur Ar-lein, Llyfrgell Genedlaethol Cymru