Devo

Oddi ar Wicipedia
Devo
Devo ar y llwyfan, yn eu gwisgoedd llachar melyn nodweddiadol
Devo yng Ngŵyl Forecastle, yn 2010
Chwith i'r dde: Gerald Casale (bas), Mark Mothersbaugh (llais), Bob Casale (allweddellau), a Bob Mothersbaugh (gitâr)
Y Cefndir
TarddiadKent ac Akron, Ohio, U.D.A.
Math o Gerddoriaeth
Cyfnod perfformio
  • 1973 (1973)–1991 (1991)
  • 1996–presennol
Label
  • Warner Bros
  • Virgin
  • Enigma
  • Rykodisc
  • Rhino
  • Stiff
  • Restless
Perff'au eraill
Gwefanclubdevo.com
Aelodau
Cyn-aelodau

Mae Devo yn grŵp 'new wave' arloesol Americanaidd a ffurfiwyd ym 1972 gan aelodau o drefi Kent ac Akron, Ohio.

Cafodd Devo beth lwyddiant gyda'r caneuon Jocko Homo (1978) a Whip it (1980) a'u fersiwn o I Can't get No Satisfaction (1977). Er byth yn llwyddiant masnachol mawr, mae Devo wedi magu dilyniant sylweddol o ffans ac wedi chwarae dros y byd am dros 40 mlynedd.

Mae steil Devo yn cynnwys elfennau kitsch, Americana, ffuglen-wyddonol, eironi, parodi, hiwmor a sylwebaeth cymdeithasol.

Mae'r enw 'Devo' yn dod o'r syniad o 'De-evolution' hynny yw bod dynoliaeth yn estblygu yn y cyfeiriad anghywir, yn ôl yn hytrach nag ymlaen.[7]

Mae anthem Devo, Jocko Homo, yn barodi ar ddadl Jocko-Homo Heavenbound (1924) gan B. H. Shadduck[8] sydd yn gwrthod syniadaeth Charles Darwin. Mae'r gân yn cynnwys y geiriau "I can do what a monkey can do / God made man / But a monkey supplied the glue"[9] Mae nifer fawr o Americanwyr yn ddal i wrthod theori Esblygiad, cymaint â 46% yn 2012 yn ôl arolwg barn Gallup.[10]

Cyflafan Kent State[golygu | golygu cod]

Roedd Jerry Casal, Mark Mothersbaugh a Bob Lewis yn fyfyrwyr Prifysgol Kent State, Ohio pan, ar 4 Mai 1970, bu'r Kent State shootings. Saethodd y National Guard bedwar o fyfyrwyr di-arfog a oedd yn protestio yn erbyn rhyfel Fietnam. Mae ffotograff o fyfyriwr yn gorwedd yn farw gyda merch yn sgrechian wrth ei ochr bellach yn un o ddelweddau eiconig y cyfnod. Yn ffrindiau i'r rhai a laddwyd cafodd y digwyddiad argraffiad dwfn ar eu hagwedd tuag at y 'freuddwyd Americanaidd'[11]

Mewn cyfweliad yn 2010 dywedodd Jerry Casal:

"All I can tell you is that it completely and utterly changed my life. I was a white hippie boy and then I saw exit wounds from M1 rifles out of the backs of two people I knew. Two of the four people who were killed, Jeffrey Miller and Allison Krause, were my friends"[12]

Ffufio Devo[golygu | golygu cod]

Ffurfiwyd Devo ym 1973 gan y brodyr Casale, Bob Lewis a'r brodyr Mothersbaugh gyda aelodaeth y band yn amrywio nes setlo ar Gerald a Bob Casale. Bob Mothersbaugh Alan Myers ar ddrymiau a barodd am y deg mlynedd ganlynol.

Yn 1976 cafodd y ffilm fer The Truth about De-Evolution wobr a bu diddordeb yn y band gan gwmni Warner a hefyd David Bowie. Ryddhawyd eu sengl cyntaf "Mongoloid" / "Jocko Homo".[7]

Er i David Bowie dangos diddordeb yn gweithio gyda Devo roedd Bowie yn rhy brysur.

Devo, Atlanta, 27 Rhagfyr, 1978

Teithiodd y band yn Ewrop gan ennill mwy o ddiddordeb fel rhain o'r fudiad newydd 'punk' na chawsont yn yr Unol Daleithiau. Cafodd eu record hir cyntaf Are We Not Men? We Are Devo! ei gynhyrchu gan Brian Eno yn yr Almaen ym 1978.[7]

Yn 1980 cafodd y band eu llwyddiant masnachol mwyaf pan gyrhaeddodd y gân Whip it yn rhif 14 yn siartiau'r Unol Daleithiau. Dangoswyd fideo y gân yn aml ar y sianel MTV newydd.

Gwerthwyd yn uchel y recordiau hir Freedom of Choice (1980) a New Traditionalists (1981) ond ers hynny ni fu'r recordiau yn cyrraedd y siartiau. Arhosodd Devo yn fand cwlt yn berfformio'n gyson o amgylch y byd i'w ffans brwd.[7]

Mae Devo wedi gwneud sawl ffilm ac mae'r aelodau wedi gwneud nifer o draciau ar gyfer ffilm a theledu. Yn 2011 dywedodd Gerald Casale ei fod yn gweithio ar sioe cerddorol Devo ar gyfer llwyfan Broadway.

Bu farw Alan Myers yn 2013 a Bob Casale yn 2014.

Aelodau[golygu | golygu cod]

Hêt enwog Devo yr Energy Dome

Recordiau hir[golygu | golygu cod]

  • Are We Not Men? We Are Devo! (1978)
  • Duty Now for the Future (1979)
  • Freedom of Choice (1980)
  • New Traditionalists (1981)
  • Oh, No! It's Devo (1982)
  • Shout (1984)
  • Total Devo (1988)
  • Smooth Noodle Maps (1990)
  • Something for Everybody (2010)

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Long, Pat (2 Mai 2009). "Pat Long meets new wave 80s oddballs Devo, who are intent on making a comeback". The Guardian. London. Cyrchwyd 26 Tachwedd 2015.
  2. 2.0 2.1 "Devo". AllMusic. Cyrchwyd 26 Tachwedd 2015.
  3. 3.0 3.1 Ring, Julian (24 Mehefin 2013). "Devo Assemble Synthetic Blues in 'Auto Modown' - Song Premiere". Rolling Stone. New York City. Cyrchwyd 3 Rhagfyr 2015.
  4. Aston, Martin. "Devo: Where Are They Now?" Q, Hydref 1995
  5. Steinberg and Michael Kehler (2010), t.355
  6. Reynolds, Simon (2005). Rip It Up and Start Again: Postpunk 1978–1984. Faber & Faber. ISBN 0571215696.
  7. 7.0 7.1 7.2 7.3 "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-08-01. Cyrchwyd 2015-07-22.
  8. http://rationalwiki.org/wiki/B.H._Shadduck
  9. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-22. Cyrchwyd 2015-07-22.
  10. http://www.gallup.com/poll/155003/Hold-Creationist-View-Human-Origins.aspx
  11. https://en.wikipedia.org/wiki/Kent_State_shootings
  12. http://boingboing.net/2010/05/04/devos-jerry-casale-o.html
  13. Devo. "Official Bio". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-23. Cyrchwyd 2016-05-24.
  14. "Alan Myers Obituary". Rolling Stone. Cyrchwyd 2013-07-19.
  15. David Kendrick, https://sites.google.com/site/devoaccellerated/home/members/david-kendrick, adalwyd 13 August 2015