Desperate Dan
Oddi ar Wicipedia
Mae Desperate Dan yn gymeriad cartŵn yn y comic y Dandy. Fe welodd olau dydd gyntaf ar 4 Rhagfyr 1937.
Dyn cydnerth, boliog, yw Desperate Dan a all godi buwch efo un llaw. Mae ganddo farf drwchus mae'n ei dorri gyda fflam blowtorch a bol enfawr. Ei hoff ddanteithyn yw "peis buwch".
Moderneiddio'r cymeriad [golygu]
Cafodd Y Dandy wedd newydd a modern ar 16 Hydref 2004 (rhifyn 3282), er mai'r un arlunydd oedd yn ei ddarlunio, ond fe'i newidiwyd ychydig. Roedd ei ên ychydig yn fwy a newidiwyd ei gymeriad i fod yn fwy o ffŵl.[1]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ "What exactly is going on at the Dandy?". BBC News. 2005-01-10. http://news.bbc.co.uk/2/hi/uk_news/magazine/4161707.stm. Adalwyd 2010-04-30.; (Saesneg)