Derren Brown
| Derren Brown | |
|---|---|
| Ganwyd | 27 Chwefror, 1971 Croydon, Llundain |
| Enwau eraill | Derren Victor Brown |
| Yn enwog am | Trick or Treat, Trick Of The Mind |
| Galwedigaeth | Consurwr |
Mae Derren Victor Brown (ganed 27 Chwefror, 1971) yn gonsurwr, lledrithiwr seicolegol, meddyliaethwr, peintiwr a amheuwr hunan-gydnabyddedig pan mae'n dod i ffenomena goruwchnaturiol. Cafodd ei eni yn Croydon, De Llundain ac astudiodd y Gyfraith ac Almaeneg ym Mhrifysgol Bryste. Tra'n astudio yno, mynychodd sioe gan yr hypnotydd Martin Taylor a chafodd ei ysbrydoli i ddilyn gyrfa mewn hypnosis a lledrith. Pan oedd yn îs-raddedig, dechreuodd weithio fel consurwr, gan ddefnyddio'r sgiliau traddodiadol o hud agos-atoch. Ym 1996 dechreuodd berfformio sioeau llwyfan hypnosis ym Mhrifysgol Bryste o dan ei enw llwyfan Darren V.Brown.
Mae Brown hefyd wedi cynnal perfformiadau sy'n ymwneud â darllen meddyliau. Yn fuan ar ôl hyn, cafodd Brown ei gomisynnu i greu peilot ar gyfer ei gyfres deledu Sianel 4, Mind Control.