Deltanet

Oddi ar Wicipedia
Deltanet
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
AwdurAndros Millward
CyhoeddwrGwasg Gomer
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1999 Edit this on Wikidata
Argaeleddmewn print
ISBN9781859027783
Tudalennau82 Edit this on Wikidata
GenreFfuglen
CyfresNofelau Nawr

Nofel Gymraeg i ddysgwyr yr iaith yw Deltanet, a ysgrifennwyd gan Andras Millward. Fe'i sgwennwyd fel bod y testun yn eithaf syml a chynhwysir geirfa ar waelod bob tudalen er mwyn rhoi cymorth i ddysgwyr. Gwasg Gomer a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 1999. Yn 2017 roedd y gyfrol mewn print.[1]

Disgrifiad byr[golygu | golygu cod]

Mae Deltanet, un o gwmnïau electronig mwyaf y byd, ar fin rhyddhau y DN Connect, dyfais a fydd yn trawsnewid y byd. Ond mae Ben Daniels, technegydd talentog yn DeltaNet, yn darganfod y gwir am DN Connect. Caiff Ben ei dynnu'n ddirybudd i'r byd tywyll sydd tu ôl i'r hysbysebion slic, lle mae pawb yn cuddio cyfrinach a lle mae gwybod y gwir yn arwain at berygl a marwolaeth.

Cymeriadau[golygu | golygu cod]

  • Mae Ben Daniels yn dechnegydd talentog sy'n darganfod y gwir am eu technoleg
  • Mae Alan yn gydweithiwr i Ben ar brosiect DN Connect
  • Mae Julie Perkins yn ohebydd ar gyfer papur newydd "y Standard"

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 2 Tachwedd 2017.