Defnyddiwr:Xxglennxx/Wica

Oddi ar Wicipedia
Y pentagl ar ffurf tlws crog gyda phentagram, neu seren gyda phum pwynt - symbol a ddefnyddir gan lawer o ymlynwyr

Crefydd Neo-baganaidd a math o ddewiniaeth fodern yw Wica (Saesneg: Wicca). Fel arfer, cyfeirir ati fel y celfyddydau gwyn neu'r Grefft[1] gan ei hymlynwyr, a elwir yn Wiciaid neu'n Wrachod. Yn ôl y sôn, sefydlwyd Wica yn Lloegr yn yr ugeinfed ganrif gynnar,[2] a phoblogeiddiwyd hi yn ystod y 1950au gan Gerald Gardner, gwas sifil Prydeinig wedi ymddeol. Ar y pryd, cyfeiriodd Gardner at y grefydd fel "cwlt y wrach" a "dewiniaeth," ac at ei hymlynwyr fel "y Wica".[3]

Fel arfer, mae Wica yn grefydd ddeuoliaethol sy'n addoli Duwies a Duw. Gwelir nhw fel y Dduwies Driphlyg a'r Duw Corniog fel arfer, ac fel ffasedau o uwch Dduwdod pantheistiol a ddangosir eu hunain ar ffurf duwiau a duwiesau amldduwiol amrywiol. Serch hynny, ceir syniadau diwinyddol eraill o fewn Wica, fel undduwiaeth ac anffyddiaeth. Mae Wica hefyd yn cynnwys y defnydd defodol o ddewiniaeth sydd wedi'i ddylanwadu'n fawr iawn ar ddewiniaeth seremonïol, fel arfer mewn cysylltair â chod o foesoldeb hael o'r enw'r Cyngor Wicaidd, ond nid yw pob un dilynwr yn cadw at y cod hwn. Mae Wica yn cynnwys wyth Gŵyl draddodiadol mewn blwyddyn, sydd wedi'u seilio ar y tymhorau.

Mae sawl enwad gwahanol o fewn Wica, a chyfeirir atynt nhw fel traddodiadau. Mae rhai traddodiadau, megis Wica Gardneraidd ac Alecsandraidd, yn dilyn dulliau ynydu Gardner; cyfeirir at y traddodiadau hyn fel Wica Traddodiadol Prydeinig, a chred llawer o'u hymarferwyr yw fod y term "Wica" yn perthyn i draddodiadau sydd â llinach Wicaidd yn unig. Mae traddodiadau eraill, megis Crefft Cochrane, y Traddodiad Fferi ac Wica Dianigaidd, yn cymryd eu prif ddylanwad o bobl eraill sydd ddim yn mynnu unrhyw linach ynydu. Nid yw pob traddodiad yn defnyddio'r term "Wica", ond sydd, yn hytrach, yn defnyddio "Dewiniaeth" yn ei le, tra bod traddodiadau eraill yn meddwl bod y gair yn perthyn i bawb.[4][5]


Credau[golygu | golygu cod]

Cerfddelwau Doreen Valiente ar yr Allor gyda'r Duw Corniog a'r Fam Dduwies arno, a wnaethpwyd gan Bel Bucca.

Mae credoau Wicaidd yn amrywio o draddodiad i draddodiad. Sut bynnag, ceir tir cyffredin rhwng grwpiau sydd fel arfer yn cylchdroi o gwmpas barnau o ddiwinyddiaeth, yr ôl-fywyd, dewiniaeth, a moesoldeb.

Diwinyddiaeth[golygu | golygu cod]

Er bod barnau Wicaidd ynghylch diwinyddiaeth yn gallu amrywio, mae'r mwyafrif o Wiciaid yn dwysbarchu un Duw ac un Dduwies. Edrychir ar y Dduwies a'r Duw o fewn fframweithiau pantheistiol (yn ogystal â bod yn agweddau deuol o'r un duwdod), deuoliaethol (fel dau gyferbyniad pegynol) neu amldduwiol (yn gyfansoddiad o lawer o is-dduwiau ac is-dduwiesau). O fewn rhai cysyniadau pantheistiol a deuoliaethol, gellir gweld duwdodau o ddiwylliannau amrywiol fel agweddau'r un Dduwies neu Dduw.[5] Sut bynnag, mae safbwyntiau diwinyddol eraill i'w cael o fewn Wica, megis undduwiaeth, sef y gred mai dim ond un uwch-dduwdod sy'n bodoli. Gwelir yr uwch-dduwdod hwn gan rai traddodiadau, megis Wica Dianigiadd, fel y Dduwies yn unig. Mae traddodiadau eraill, megis Yr Eglwys a'r Ysgol o Wica, yn credu nad oes cenedl (o ran rhyw) i'r dduwdod yma.

Yn ôl Janet a Stewart Farrar, a oedd â chredoau pantheistiol, deuoliaethol, ac animistaidd, mae Wiciaid yn "ystyried yr holl gosmos i fod yn fyw, ar y cyfan ac ymhob man", ond "nad yw'r fath farn organig y cosmos yn gallu cael ei mynegi'n llawn, a ddim yn gallu byw, heb gysyniad o Dduw a Duwies. Nid oes dim amlygiad heb bolareiddiad; felly ar y lefel greadigol uchaf, lefel diwinyddol, mae'n rhaid i'r polareiddiad fod yn glir a grymus ar y cyfan, yn ogystal ag ystyried a lledaenu'i hun drwy bob un lefel microcosmig".[6]

Y Duw a'r Dduwies[golygu | golygu cod]

I'r mwyafrif o Wiciaid, gwelir y Duw a'r Dduwies fel polareddau cyflenwol o fewn y bydysawd sy'n cydbwyso'i gilydd, ac yn y ffordd yma y cymharir nhw â'r cysyniad o in iang yn Nhaoaeth.[7] O ganlyniad, dehonglir nhw fel "ymgorfforiadau o amlygiad mewn natur."[8] Mae rhai Wiciaid eraill yn credu mai symbolau o'r polareddau hyn ydynt, tra bod eraill yn credu mai bodau diffuant sy'n bodoli'n annibynnol ydynt. Fel arfer, rhoddir cymdeithasiadau symbolaidd i'r ddau dduwdod hyn, gan gynrychioli'r Dduwies â'r Ddaear (h.y., Mam y Ddaear), ond hefyd weithiau fel y Lleuad, sy'n canmol y Duw a welir fel yr Haul.[9]

"Mae'r Duwiau a Duwiesau'n byw. Nid fel pobl, ond fel cyfryngau o bŵer. Yn gryno, gellir ei egluro bod y personoliad o fath arbenigol o bŵer cosmig ar ffurf Duw neu Dduwies, a ddilynwyd drwodd gan gredwyr ac addolwyr drwy lawer o ganrifoedd, yn adeiladu'r Duw-ddull neu Ddelwedd Hudol i mewn i realiti crynodol ar y Gwastadoedd Mewnol, sy'n gwneud ohono yn fodd lle gallwch gysylltu â'r fath o bŵer cosmig hwnnw."

Yn draddodiadol, gwelir y Duw fel y Duw Corniog, a gymdeithasir â natur, anial, rhywioldeb, hela, a'r cylchred bywyd.[11] Yn ôl y traddodiad, rhoddir enwau amrywiol iddo, gan gynnwys Cernunnos, Pan, Atho, a Karnayna. Tra na hafalir y ffigwr hwn â'r ffigwr traddodiadol Cristnogol o Satan, a welir fel endid sy'n ymroddedig i ddrwg o fewn Cristnogaeth, mae lleiafrif bychan o Wiciaid, mewn cadw â'r cyhuddiadau o dreialon gwrach hanesyddol, yn cyfeirio at eu Duw Corniog gyda rhai enwau Satan, megis "y Diafol"[12] neu fel "Lwsiffer", term Lladin sy'n golygu "cariwr golau".[13] Ar adegau eraill, gwelir y Duw fel y Dyn Gwyrdd,[14] ffigwr traddodiadol o fewn celf a phensaernïaeth Ewropeaidd, a dehonglir nhw yn gysylltiol â'r byd naturiol. Gwelir y Duw hefyd fel Duw Haul,[15] yn bennaf ar adeg Gŵyl Ganol yr Haf, neu heuldro'r haf. Darluniad arall y Duw yw Brenin Derwen a Brenin Celynnen, sy'n rheoli dros y gwanwyn a'r haf, gyda'r llall yn rheoli dros yr hydref a'r gaeaf.[14]

Portreadir y Dduwies fel arfer fel Duwies Driphlyg, trwy hynny bod yn dduwies driadig sy'n cynnwys duwies Wyryf, Duwies Fam, a duwies Hen Wrach. Mae gan bob un ohonyn nhw gymdeithasiadau gwahanol, sef gwyryfdod, ffrwythlonder, a challineb yn ôl eu trefn.[16] Gwelir hi hefyd fel Duwies Leuad,[17] a rhoddir yr enw o Diana arni, enw'r dduwies hynafol Rufeinig. Mae rhai Wiciaid yn meddwl bod y Dduwies yn fwy pwysig na'r Duw, gan ei bod yn rhagorol oherwydd ei bod yn cynnwys ac yn beichiogi popeth. O ran hyn, gwelir y Duw fel y wreichionen o fywyd ac ysbrydoliaeth y tu mewn i'w hun, ei chariad a'i phlentyn ar yr un pryd.[18] Adlewyrchir hyn mewn fframwaith traddodiadol y cwfen.[19] O fewn un ffurf undduwiol o Wica, Wica Dianigaidd, yr unig dduwdod yw'r Dduwies, sy'n gysyniad a feirniadir gan aelodau o draddodiadau mwy egalitaraidd.

Dyfeisiwyd y cysyniad o grefydd sy'n dwysbarchu Duw Corniog a Duwies gan Eifftydd o'r enw Margaret Murray yn ystod y 1920au. Credodd hi, oherwydd ei theorïau ei hun ynglŷn â'r treialon gwrach yn Ewrop Ddiweddar Gynnar, fod yr addolwyd duw a duwies, ond y Duw Corniog yn bennaf, gan gwlt y wrach ers i orllewin Ewrop ildio i Gristnogaeth. Y dyddiau hyn, difrïwyd y theori hon yn fawr iawn, ond roedd Gardner yn gefnogwr o'i theori, a chredodd mai parhad o gwlt y wrach hanesyddol hynny oedd Wica, ac felly roedd y Duw Corniog a'r Dduwies yn dduw a duwies hynafol o Ynysoedd Prydain.[20] Gwrthbrofwyd y datganiad hwn gan ysgolheictod diweddar, ond wedi dweud hynny, addolwyd casgliad o wahanol dduwiau corniog a duwiesau mam ar draws Ynysoedd Prydain yn ystod y cyfnodau canoloesol cynnar a hynafol.[21]

Pantheistiaeth, Amldduwiaeth, ac Animistiaeth[golygu | golygu cod]

Cerflun y Duw Corniog yn y Museum of Witchcraft, Boscastle, Cernyw.

Mae llawer o Wiciaid yn meddwl mai dim ond dau agwedd o'r un Duwdod yw'r Duw a'r Dduwies, a welir yn aml fel duwdod pantheistiol, trwy hynny'n amgylchynu popeth yn y bydysawd o fewn ei ddiwinyddiaeth. Yn ei ysgrifeniadau cyhoeddus, cyfeiriodd Gardner at yr endid hwn fel y Prif Symudydd, ond datganodd ei fod yn adnabyddadwy o hyd,[22] er o fewn defodau ei draddodiad, Wica Gardneraidd, cyfeirir ato fel y Dryghten,[23] sy'n golygu "arglwydd" mewn Hen Saesneg yn wreiddiol. Ers hynny, rhoddwyd llawer o enwau eraill arno gan wahanol Wiciaid; "The One" gan Scott Cunningham er enghraifft.[24]

Yn ogystal â phantheistiaeth a deuoliaeth, mae llawer o Wiciaid yn derbyn y cysyniad o amldduwiaeth, trwy hynny'n credu bod llawer o wahanol dduwiau a duwiesau yn bodoli. Mae rhai yn derbyn barn yr ocwltiwr Dion Fortune, fod "pob un duw yn un duw, ac mae pob un dduwies yn un dduwies" — hynny yw, bod duwiau a duwiesau o bob un diwylliant, yn ôl eu trefn, yn agweddau o'r un uwch Dduw ac uwch Dduwies. Gyda'r farn hon, gall Wiciad edrych ar y Dduwies Almaenig Ēostre, y Dduwies Hindŵaidd Kali, a'r Forwyn Fair fel amlygiadau'r un Dduwies oruchaf, ac yn yr un modd, y Duw Celtaidd Cernunnos, y Duw Groegaidd hynafol Dionysus, ac Yahweh (o Judo-Gristnogaeth) fel amlygiadau'r un Duw goruchaf. Mae dynesfa amldduwiol fwy caeth yn meddwl mai endidau arbennig yw'r gwahanol dduwiau a duwiesau, gwahanol mewn eu hawliau eu hunain. Mae Janet Farrar a Gavin Bone wedi cynosod bod Wica yn dyfod yn fwy amldduwiol wrth iddi aeddfedu, gan dueddu cynnwys safbwynt Paganaidd mwy traddodiadol.[25] Mae rhai Wiciaid yn synio'r nid personoliaethau llythrennol yw'r duwiau a'r duwiesau, ond yn archfathau trosiadol, trwy hynny'n caniatáu iddynt fod yn anffyddwyr mewn ffordd.[26] Honnwyd y fath farn gan Archoffeiriades Vivianne Crowley, a oedd yn seicolegydd ac yn ystyried y Duwiau a Duwiesau Wicaidd i fod yn Archfathau Jungaidd a oedd yn bodoli o fewn y meddwl isymwybodol a wysir yn ystod defod. Oherwydd hyn, dywedodd, "Mae'r Dduwies a'r Duw yn amlygu eu hunain inni ar ffurf breuddwyd a gweledigaeth."[27]

Yn hanfodol, crefydd fewnfodol yw Wica, ac i raddau, mae'r syniad hwn hefyd yn cynnwys elfennau o animistiaeth. Cred sy'n ganolog i Wica yw'r Dduwies a'r Duw yn gallu amlygu eu hunain mewn ffurf bersonol, fel arfer trwy gyrff yr Archoffeiriades a'r Archoffeiriad sy'n perfformio defodau megis Tynnu'r Lleuad i lawr neu Dynnu'r Haul i lawr.

Yr ôl-fywyd[golygu | golygu cod]

Mae'r gred yn yr ôl-fywyd yn amrywio o Wicaid i Wicaid,[28] er bod ailymgnawdoliad yn ddysgeidiaeth draddodiadol sy'n dyddio'n ôl i Gwfen y Fforest Newydd yn y 1930au. Dywedodd Raymond Buckland, yr Archoffeiriad dylanwadol, fod enaid dynol yn ailymgnawdoli i mewn i'r un rhywogaeth dros sawl bywyd er mwyn dysgu gwersi ac ymestyn yn ysbrydol,[29] ond nid yw'r gred hon yn gyffredinol, gan fod llawer o Wiciaid yn credu y gall enaid ailymgnawdoli i mewn i wahanol rywogaethau. Serch hynny, mae gan Wiciaid ddywediad poblogaidd: "unwaith yn wrach, wastad yn wrach," sy'n dangos y gred mai ailymgnawdoliadau o wrachod blaenorol yw Wiciaid.[30]

Fel arfer, mae Wiciaid sy'n credu mewn ailymgnawdoli yn credu bod yr enaid yn gorwedd rhwng ailymgnawdoliadau yn yr Arallfyd neu Wlad yr Haf, sydd â'r enw "ecstasi'r Dduwies" yn ôl Gardner.[31] Mae llawer o Wiciaid yn credu yn y gallu i gysylltu ag ysbrydion sy'n preswylio yn yr Arallfyd drwy gyfryngwyr ysbryd a byrddau wiji, yn bennaf ar adeg Nos Galan Gaeaf/Samhain, er bod eraill yn anghytuno â'r arfer hwn, megis yr Archoffeiriad Alex Sanders, a ddywedodd "bu iddynt farw; boed iddynt fod mewn heddwch".[32] Ymddengys fod y gred hon wedi cael ei dylanwadu arni gan ysbrydegaeth, a oedd yn boblogaidd iawn ar yr adeg pan ymddangosodd Wica, ac roedd profiad o ysbrydegaeth gan Gardner ac Wiciaid cynnar eraill megis Buckland a Sanders.[33]

Er gwaethaf tipyn o gred ynddo, felly, nid yw Wica yn rhoi pwyslais ar ôl-fywyd, gan ganolbwyntio'n hytrach ar fywyd cyfredol; fel sylwodd yr hanesydd Ronald Hutton, "ymddengys mai safle greddfol llawer [o Wiciaid] yw os ydych yn gwneud y gorau o'r bywyd cyfredol, wedyn bydd y bywyd nesaf, fwy neu lai, yn elwa o'r broses hon, ac o ganlyniad y dylai bwysleisio ar y presennol".[31]

Hud a Dewiniaeth[golygu | golygu cod]

Mae llawer o Wiciaid yn credu mewn dewiniaeth, grym a ellir ei drin gan ymarfer hud neu swyngyfaredd. Gelwir hud yn "magick" yn Saesneg, gair a fathwyd gan yr ocwltiwr dylanwadol Aleister Crowley, er bod y sillafiad hwn yn fwy cyffredin i grefydd Crowley Thelema nag i Wica. Yn wir, mae llawer o Wiciaid yn cytuno â'r diffiniad o ddewiniaeth a hud a gynigwyd gan ddewiniaid seremonïol,[34] megis Aleister Crowley, a ddywedodd "y wyddoniaeth a chrefft o beri newid i ddigwydd wrth gyd-fynd ag ewyllys yw dewiniaeth." Dywedodd dewin seremonïol arall o'r enw MacGregor Mathers, "y wyddoniaeth o reoli'r grymoedd cudd o natur yw dewiniaeth."[34] Mae llawer o Wiciaid yn credu mai peth naturiol yw dewiniaeth, a gamddeallir hyd yn hyn gan wyddoniaeth gyfoes,[34] ac o ganlyniad nid yw Wiciaid yn edrych arno fel peth goruwchnaturiol, ond fel rhan yr "uwch bwerau sy'n preswylio mewn natur" yn ôl Leo Martello.[35] Mae rhai o Wiciaid yn credu mai gwneud defnydd llawn o'r pum synnwyr er mwyn cyflawni canlyniadau rhyfedd yw dewiniaeth.[35] Mae rhai o Wiciaid eraill yn dweud nid ydynt yn gwybod sut mae dewiniaeth a hud yn gweithio, dim ond yn credu ei bod yn bodoli oherwydd gwelont ddewiniaeth a hud yn gweithio.[31]

"Y pwynt [o hud o fewn Dewiniaeth] yw gwneud i'r byd "ystwyth" ystwytho yn ôl eich ewyllys... Oddieithr eich bod perchen ffydd gref yn eich pwerau a'ch gallu i weithredu'r swyn, ni fyddwch yn cyflawni'r angerdd llosg o'ch ewyllys a dychymyg sy'n angenrheidiol i wneud i'r ddewiniaeth weithio."

Mae Wiciaid yn castio swynion yn ystod arferiadau defodol (a gynhelir yn aml o fewn cylch sanctaidd) mewn cais i ddod â newid go iawn ar y byd ffisegol. Mae swynion cyffredin yn cynnwys swynion i iacháu pobl, swynion ynglŷn â chariad a ffrwythlondeb, neu i atal dylanwadau negyddol ar bobl.[37] Cyfeiriwyd llawer o Wiciaid cynnar, megis Alex Sanders, Doreen Valiente, a Sybil Leek, at eu hud eu hunain fel "dewiniaeth wen", mewn cyferbyniad â "dewiniaeth ddu", drwg a Sataniaeth. Defnyddiodd Sanders derminoleg debygol megis "llwybr y llaw chwith" er mwyn disgrifio dewiniaeth faleisus, a "llwybr y llaw dde" er mwyn disgrifio dewiniaeth a wnaethpwyd gyda bwriadau da;[31] terminoleg a fathwyd gydag ocwltiwr o'r enw Madame Blavatsky yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bellach, mae rhai o Wiciaid diweddar wedi peidio â defnyddio'r dicotomïau o ddewiniaeth wen-ddu a llwybr y llawr chwith-dde, gan ddadlau na ddylai'r lliw du fod ag unrhyw gysylltiadau drwg.[38]

Ym 1985, dywedodd yr ysgolheigion Rodney Stark a William Bainbridge fod Wica "wedi adweithio i seciwlareiddiad gyda phlymiad byrbwyll yn ôl i mewn i ddewiniaeth" a'i fod yn grefydd adweithiol a fydd yn marw'n fuan. Beirniadwyd y farn hon yn hallt ym 1999 gan yr hanesydd Ronald Hutton, a ddywedodd fod "llawer [o Wiciaid] â swyddi ar fin ymyl dorri [o ddiwylliant gwyddonol], megis technoleg gyfrifiadurol."[31]

Moesoldeb[golygu | golygu cod]

"Bide the Wiccan laws ye must, in perfect love and perfect trust... Mind the Threefold Law ye should - three times bad and three times good... Eight words the Wiccan Rede fulfill - an it harm none, do what ye will."

Lady Gwen Thompson

Nodyn: Mae "an" yma yn golygu 'os' yn Gymraeg, sy'n gyfartal ag 'if' mewn Hen Saesneg

[39]

Nid oes cod moesol neu ddogma a ddilynir yn slafaidd gan Wiciaid o urhyw draddodiad, serch hynny, mae'r mwyafrif yn dilyn cod moesol o'r enw'r Cyngor Wicaidd, sy'n datgan "os nad yw'n brifo neb, gwnewch yr hyn a fynnwch." Dehonglir hyn fel arfer fel datganiad o'r rhyddid i weithredu, gyda'r angen i gymryd cyfrifioldeb am yr hyn sy'n dilyn o ganlyniad i'ch gweithredoedd a lleihau'r niwed i'ch hunan a phobl eraill.[40] Mae'r Gyfraith o Ddychweliad Triphlyg yn elfen gyffredin arall o foesoldeb Wica, sy'n dweud, "yr hyn a anfonir allan gennych, naill ai'n garedig neu'n faleisus, fydd yn dychwelyd atoch deirgwaith cryfach," neu gyda grym cyfartal ar lefel y corff, y meddwl, a'r ysbryd - syniad sy'n debyg i syniad y dwyrain o garma. Cyflwynwyd y Cyngor Wicaidd a'r Gyfraith o Ddychweliad Triphlyg i mewn i Wica gan Gerald Gardner, a dderbynnir gan draddodiadau Gardneraidd a thraddodiadau tebyg.

Mae llawer o Wiciaid hefyd yn ceisio byw wrth set o wyth rhinwedd a soniwyd amdanyn nhw o fewn Siars y Dduwies gan Doreen Valiente,[41] sef digrifiwch, parchedigaeth, anrhydedd, gostyngeiddrwydd, cryfder, prydferthwch, pŵer, a thosturi. Yn y gerdd, trefnwyd y rhinweddau mewn parau o gyferbyniadau cyflenwol, gan adlewyrchu deuoliaeth sy'n gyffredin mewn athroniaeth Wicaidd. Mae rhai Wiciaid â llinach hefyd yn sylwi fod set o Gyfreithiau Wicaidd ar gael, a elwir Cyfreithiau'r Grefft neu Ardanes, gyda 30 ohonyn nhw'n bodoli o fewn traddodiad Gardner, a gyda 161 o fewn traddodiad Sanders. Dadleuodd Valiente, y crëwyd y tri-deg rheol hyn gan Gardner ei hun mewn iaith ffug-hynafaidd fel y sgil gynnyrch o groesdynnu mewnol o fewn ei Gwfen Coed Briced.[42][43] Crëwyd y rheolau eraill fel ychwanegiadau hwyr gan Alex Sanders yn ystod y 1960au.

Er i Gardner ddangos tueddiadau negyddol i gyfunrywioldeb ar y cychwyn, gan ddweud ei fod yn dyfod â "rheg y dduwies",[44] fe'i derbynnir yn gyffredinol ymhob un traddodiad Wicaidd erbyn hyn, gyda rhai grwpiau, megis y Minoan Brotherhood (Brawdoliaeth y Minoaid), yn canolbwyntio eu hathroniaeth o'i gwmpas.[45] Yn ogystal â hyn, roedd cymeriadau pwysig, gwahanol o fewn Wica, pobl megis Alex Sanders ac Eddie Buczynsky, yn gyfunrywiol neu'n ddeurywiol, a hynny ar goedd.

Y Pum Elfen[golygu | golygu cod]

O fewn rhai traddodiadau, mae cred yn y pum elfen glasurol, er mai annhebyg ŷnt i hen Roeg, fe'i gwelir yn elfennau symbolaidd yn hytrach na llythrennol; hynny yw, maent yn cynrychioli agweddau o fater. Caiff y pum elfen hyn eu harddeisyf yn ystod llawer o ddefodau hudol, megis wrth gysegru cylch hudol: Aer, Tân, Dŵr a Daear, yn ogystal ag Ether (neu Ysbryd) yw'r pum elfen.[46] Dyfeisiwyd gwahanol gydweddiadau er mwyn egluro cysyniad y pum elfen; er enghraifft, mae Ann-Marie Gallagher yn defnyddio cysyniad o goeden, a wneir o Ddaear (gyda mater y pridd a phlanhigyn), Dŵr (sudd a lleithder), Tân (drwy ffotosynthesis) ac Aer (gan greu ocsigen o garbon deuocsid), a gyfunwyd gyda'r Ysbryd.[5]

"Darksome Night and Shining Moon,

East and South and West and North,

Hearken to the Witches' Rune;

Hear me now, I call thee forth."

Yn draddodiadol o fewn Wica Gardneraidd, mae pob un elfen wedi cael ei chysylltu â phwynt cardinal y cwmpawd; Aer â'r dwyrain, Tân â'r de, Dŵr â'r gorllewin, Daear â'r gogledd, ac Ysbryd â'r canol.[5] Sut bynnag, datganodd rhai Wiciaid, megis Frederic Lamond, fod y set o bwyntiau cardinal hyn yn gallu cael eu defnyddio'n unig yn ne Lloegr, lle datblygwyd Wica, a fydd yn rhaid i Wiciaid eraill bennu cyfarwyddiadau eu hunain yn ôl eu traddodiadau eu hunain, er enghraifft, dylai pobl sy'n byw ar arfordir y dwyrain o Ogledd America arddeisyf Dŵr yn y dwyrain yn hytrach na'r gorllewin oherwydd bod y corff anferth o ddŵr, y Môr Iwerydd, i'w dwyrain iddyn nhw.[47] Mae traddodiadau Wicaidd eraill wedi cysylltu'r elfennau gyda gwahanol bwyntiau cardinal; cymdeithaswyd Clan Tubal Cain Robert Cochrane y Ddaear gyda'r de, Tân gyda'r dwyrain, Dŵr gyda'r gorllewin a'r Aer gyda'r gogledd,[48] a rheolir bob un elfen gan wahanol dduw neu dduwies sy'n blant i'r Duw Corniog a'r Dduwies. Symboleiddir y pum elfen gyda'r pum pwynt y pentagram, y symbol mwyaf ddefnyddir o fewn Wica.[49]

Ymarferiadau[golygu | golygu cod]

Sylwodd yr Arch Offeiriades ac ymchwiliwr Neo-baganaidd Margot Adler, y diffiniwyd defod fel "dull o atgyfannu unigolion a grwpiau i mewn i'r cosmos, ac i glymu gweithgareddau o fywyd dyddiol i mewn â'u harwyddocâd - a anghofiwyd amdano'n aml". Dywedodd hefyd nad yw dathliadau a defodau newid byd o fewn Wica yn "brofion sych, ailadroddus, wedi'u ffurfioli", ond yn cael eu perfformio gyda'r un pwrpas o beri profiad crefyddol o fewn eu cyfraniadau.[50] Sylwodd fod llawer o Wiciaid yn ofalus ynghylch bodolaeth y duwiau a'r duwiesau a'r ôl-fywyd ayyb, ond maent yn weithredol o fewn y Grefft heblaw hyn, oherwydd eu profion defodol. Dywedodd Glenna Turner, "Rwy'n dwli ar fytholeg, breuddwydion, a chelf weledigaethol. Y lle mae pob un o'r pethau hyn yn ffitio â'i gilydd yw'r Grefft - harddwch, pasiantri, cerddoriaeth, dawnsio, canu, a breuddwydio."[51]

Datganodd Aidan Kelly, Archoffeiriad a hanesydd y Grefft, fod ymarferiadau a phrofion o fewn Wica yn fwyfwy pwysig na'r credoau, gan ddweud "[bod Wica] yn grefydd o ddefod yn hytrach nag yn ddiwinyddiaeth. Mae'r ddefod yn gyntaf; mae'r fytholeg yn ail. Ac wrth gymryd agwedd mai mythau'r Grefft yw'r 'gwir hanes' yn y ffordd mae ffwndamentaliaid yn edrych ar chwedleuon o Genesis yn swnio'n wallgof."[52] Dyma'r rheswm yn ôl Adler: "mae'n eironig, oherwydd wrth ystyried y datganiadau i gyd sydd yn erbyn Dewiniaeth fel bygythiad, un o'r unig safbwyntiau crefyddol yw'r Grefft sy'n hollol gydnaws gyda gwyddoniaeth ddiweddar, gan ganiatáu sgeptigaeth ynghylch ei haelodau, mythau, a defodau eu hun hyd yn oed."[53]

Ymarferiadau defodol[golygu | golygu cod]

Llun o'r athamé, offeryn defodol a ddefnyddir o fewn ymarferiadau defodol Wicaidd.

Mae llawer o ddefodau o fewn Wica a ddefnyddir wrth ddathlu'r Gwyliau, addoli'r duwiau a duwiesau a gweithio hud a dewiniaeth. Mae'r defodau hyn yn cymryd lle ar leuad lawn fer arfer, neu ar y lleuad newydd weithiau, a elwir yn Esbat. O fewn defodau nodweddiadol, mae'r cwfen yn ymgynnull o fewn cylch hudol a gastiwyd a phurwyd yn ddefodol. Mae castio'r cylch yn cynnwys arddeisyfiad y "Gwarcheidwaid" o'r pwyntiau cardinal, ochr yn ochr gyda'i elfennau clasurol priodol; Aer, Tân, Dŵr, a Daear. Unwaith i'r cylch gael ei gastio, gellir perfformio defod dymhorol, gweddïo, a gweithio hud a dewiniaeth. Mae'r defodau hyn yn cynnwys set arbennig o offer hudol fel arfer. Mae'r rhai hyn yn gallu cynnwys cyllell a elwir yn athamé, hudlath, pentagl a charegl, ac mae offer eraill yn cynnwys ysgubell, crochan, canhwyllau, arogldarth a llafn crwm a adnabyddir fel bolein. Mae Allor yn bresennol yn y cylch fel arfer, sy'n dal offer defodol a osodir arno, ac weithiau arddangosir cynrychiolaethau'r Duw a'r Dduwies.[54] Cyn mynd i mewn i'r cylch, mae rhai traddodiadau'n ymprydio am ddiwrnod, a/neu ymdrochi yn ddefodol. Wedi i ddefod orffen, diolchir i Duw a'r Dduwies, a'r Gwarcheidwaid, a chaeir y Cylch.

Mae rhai traddodiadau, yn enwedig Wica Gardneraidd, yn ymarfer wrth fod yn noeth, hefyd a elwir yn skyclad. Ni wyddys o le mae'r term yn dod, ond mae rhai'n dweud ei fod yn tarddu o linell yn Aradia, or the Gospel of the Witches, record o ddewiniaeth Eidalaidd a ysgrifennwyd gan Charles Leland.[55] Mae traddodiadau eraill yn gwisgo gynau gyda chordiau a glymwyd o gwmpas y wast neu ddillad normal y stryd. O fewn rhai traddodiadau, perfformir dewiniaeth ryw defodol ar ffurf y Ddefod Fawr, lle mae'r Archoffeiriaid a'r Archoffeiriades yn arddeisyf i'r Duw a'r Dduwies eu perchenogi cyn perfformio cyfathrach rywiol er mwyn codi egni hudol i'w ddefnyddio i weithio swynion. O fewn rhai achosion, perfformir y Ddefod Fawr "mewn tocyn", trwy hynny'n symbolaidd yn unig, gan ddefnyddio athamé er mwyn cynrychioli'r pidyn a charegl er mwyn cynrychioli'r wain.[56]

Yr Wyth Gŵyl a Rhod y Flwyddyn[golygu | golygu cod]

Rhod y Flwyddyn paentiedig yn y Museum of Witchcraft, Boscastle, Cernyw, sy'n arddangos pob un o'r wyth Gŵyl.

Mae Wiciaid yn dathlu wyth gŵyl dymhorol o'r enw Gwyliau (Saesneg: Sabbats). Cyfeirir atynt i gyd fel Rhod y Flwyddyn.[57] Mae llawer o Wiciaid, megis Wiciaid Gardneraidd a llawer o Wiciaid eclectig yn dathlu'r wyth Gŵyl, ond o fewn grwpiau a thraddodiadau eraill, yn enwedig y rhai sy'n disgrifio eu hunain fel "Dewiniaeth Draddodiadol", megis y Clan o Tubal Cain, fe ddethlir pedair gŵyl yn unig, ac mae'r grŵp Ros an Bucca o Gernyw, yn achos prin iawn gan ei fod yn dathlu chwe gŵyl yn unig.[58] Y pedair gŵyl sy'n gyffredin i bob un o'r grwpiau hyn yw'r dyddiau chwarter croes, a gyfeirir atynt weithiau fel Gwyliau Mawr neu Wyliau Tân, a dechreuasant fel gwyliau a ddathlwyd gan y Celtiaid Iwerddon a gwledydd Celtaidd eraill.[59] Yn ôl llyfrau Margaret Murray, The Witch-Cult in Western Europe (1921) a The God of the Witches (1933), mae'r pedair gŵyl hyn wedi goroesi Cristyddiaeth (Christianisation) a dathlwyd gyda chrefydd-ddewiniaeth y Paganiaid. Ar ôl hynny, pan ddatblygwyd Wica yn gyntaf yn y 1930au hyd at y 1960au, penderfynodd llawer o'r grwpiau cynnar hyn, megis grŵp Robert Cochrane, Clan o Tubal Cain, a chwfen Gerald Gardner, Cwfen Coed Briged, i ddathlu'r pedair Gŵyl hyn a ddisgrifiwyd gan Murray. Defnyddiodd Gardner yr enwau Saesneg ar eu cyfer, gan ddweud, "the four great Sabbats are Candlemass [sic], May Eve, Lammas, and Halloween; the equinoxes and solstices are celebrated also."[60]

Adnabyddir y pedair gŵyl eraill a ddethlir gan Wiciaid fel "Gwyliau Bach", sy'n cynnwys yr heuldroadau a'r cyhydnosau, a dathlwyd hwy yn y lle cyntaf ym 1958 gan aelodau Cwfen Coed Briceg.[61] Ar ôl hynny, dathlwyd hwy gan ddilynwyr eraill o draddodiad Gardner, a chan draddodiadau eraill megis Wica Alecsandraidd ac Wica Dianigaidd o'r diwedd. Daeth enwau'r gwyliau o wyliau amldduwiol y Celtiaid a Phaganiaeth yr Almaen. Serch hynny, nid yw'r gwyliau'n ail-adeiladol mewn natur, ac nad ydynt yn debyg i'w cymheiriaid hanesyddol, ond y maent yn dangos fod rhai pethau'n gyffredin rhwng y grwpiau.

Gŵyl Hemisffer y Gogledd Hemisffer y De Tarddiadau Hanesyddol Cysylltiadau
Samhain, hefyd a elwir Gŵyl Calan Gaeaf 31 Hydref 30 Ebrill, neu 1 Mai Paganiaeth Geltaidd (gweler hefyd y Celtiaid) Marwolaeth a'r hynafiaid.
Gŵyl Ganol y Gaeaf, hefyd a elwir Alban Arthan Amrywio rhwng 19 - 23 Rhagfyr Amrywio rhwng 19 - 23 Mehefin Paganiaeth yr Almaen Heuldro'r Gaeaf ac ailenedigaeth yr haul.
Imbolc, hefyd a elwir Gŵyl Fair y Canhwyllau 1 neu 2 Chwefror 1 Awst Paganiaeth Geltaidd (gweler hefyd y Celtiaid) Arwyddion cyntaf o'r gwanwyn.
Ēostre, hefyd a elwir Alban Eilir Amrywio rhwng 19 - 23 Mawrth Amrywio rhwng 19 - 23 Medi Paganiaeth yr Almaen Cyhydnos y Gwanwyn a dechrau'r gwanwyn.
Calan Mai, hefyd a elwir Noswyl Fai (Noson Walpurgis), neu Beltaine 30 Ebrill neu 1 Mai 1 Tachwedd Paganiaeth Geltaidd (gweler hefyd y Celtiaid) Blaguro llawn o'r gwanwyn. Tylwythau Teg.[62]
Gŵyl Ganol yr Haf, hefyd a elwir Alban Hefin a Chalan Ieuan Fedyddiwr Amrywio rhwng 19 - 23 Mehefin Amrywio rhwng 19 - 23 Rhagfyr Efallai neolithig Heuldro'r Haf / Hirddydd Haf.
Lugnasad, hefyd a elwir Gŵyl Galan Awst 1 neu 2 Awst 1 Chwefror Paganiaeth Geltaidd (gweler hefyd y Celtiaid) Cynaeafu'r grynon.
Mabon, hefyd a elwir Modron[63] Amrywio rhwng 19 - 23 Medi Amrywio rhwng 19 - 23 Mawrth Dim. Cyhydnos yr Hydref neu Alban Elfed. Cynaeafu o ffrwyth.

Defodau newid byd[golygu | golygu cod]

Mae llawer o ddefodau newid byd (rites of passage) o fewn Wica. Efallai'r ddefod fwyaf pwysig yw'r ddefod ynydu, sy'n ffordd o ddyfod yn Wicaid wrth ymuno â'r Grefft. O fewn traddodiadau o Wica Traddodiadol Prydeinig, ceir llinach ynydu sy'n mynd yr holl ffordd nôl i Gerald Gardner, a ddywedodd y cafodd ei ynydu i mewn i'r Gwfen y Fforest Newydd; serch hynny, nid oes tystiolaeth am fodolaeth y cwfen hwn.[64] Dywedodd Gardner fod yn rhaid i berson aros am y cyfnod traddodiadol o "flwyddyn a diwrnod" rhwng ynydiadau, ond fe dorrodd y rheol hon yn aml. O fewn Wica Traddodiadol Prydeinig, caiff y person ei ynydu i mewn i'r radd gyntaf i ddechrau. I symud ymlaen i'r ail radd, mae'n rhaid iddo gael ynydiad arall. Yn yr ynydiad hwn, mae'n rhaid i'r person enwi a disgrifio'r defnyddiau o'r offer hudol.[65]

Yn y ddefod ynydu, fe roddir enw crefft i'r person hefyd.[65] Wrth gael ynydu i mewn i'r ail radd, gall Wicaid ynydu pobl eraill, neu sefydlu cwfen hanner-ymreolaethol ei hun.[65] Y drydedd radd yw'r radd uchaf o fewn Wica Traddodiadol Prydeinig, sy'n cynnwys cydgyfranogi yn y Ddefod Fawr, naill ai mewn ffordd symbolaidd neu go iawn, yn ogystal â fflangellu defodol.[66] Wrth gael ei ynydu i mewn i'r drydedd radd, gall Wicaid sefydlu cwfen ei hun sy'n hollol annibynol.[66]

Seremoni llaw-glymu yn Avebury, Lloegr, a ddigwyddodd yn ystod Calan Mai yn 2005

Mae'r system hon yn unigryw i Wica Traddodiadol Prydeinig a thraddodiadau sy'n seiliedig arni. Nid yw'r un system gan Grefft Cochrane, oherwydd nad yw'r traddodiad hwnnw'n dilyn Wica Traddodiadol Prydeinig, ond traddodiad sy'n seiliedig ar ddysgeidiaethau Robert Cochrane. Mae gan y traddodiad hwn gyfnod o nofis ac initiate. Mae rhai Wiciaid unig hefyd yn ymarfer defodau hunan-gysegru i ddyfod yn Wiciad. Y ddefod hunan-gysegru gyntaf a gyhoeddwyd oedd yn llyfr Paul Huson, Mastering Witchcraft (1970). Yn y llyfr, roedd yn rhaid i'r person ddatgan Gweddi'r Arglwydd tuag yn ôl fel symbol o herfeiddiad yn erbyn cyfnod helfa'r gwrachod hanesyddol.[67] Cyhoeddwyd defodau hunan-gysegru mwy Paganaidd erbyn i'r llyfr hwnnw gael ei gyhoeddi, a ddyluniwyd ar gyfer Wiciaid unig gan awduron fel Doreen Valiente, Scott Cunningham, a Silver Ravenwolf.

Mae llaw-glymu yn ddathliad arall a ddethlir gan Wiciaid, sy'n debyg i briodas Gristnogol. Mae rhai Wiciaid yn ymarfer "priodas arbrawf" am flwyddyn a diwrnod, gyda rhai traddodiadau yn cynnal y dathliad ar Lugnasad; hwn oedd y cyfnod traddodiadol ar gyfer arbrofi'r briodas. Adduned gyffredin Wicaidd yw "tra bo cariad", yn lle'r adduned Gristionogol draddodiadol o "hyd nes i farwolaeth ein rhannu".[68] Digwyddodd y briodas Wicaidd gyntaf ym 1960 rhwng Frederic Lamond a'i wraig gyntaf, Gillian, aelodau o Gwfen Bricket Wood.[69]

Weithiau, ymglymir babanod o deulu Wicaidd mewn defod o'r enw Bedydd Wicaidd, sy'n debyg i'r ddefod Gristnogol o fedyddio. Pwrpas y ddefod hon yw cyflwyno'r baban i'r Duw a'r Dduwies.

Llyfr y Cysgodion[golygu | golygu cod]

Nid oes unrhyw destun sanctaidd penodol o fewn Wica, megis y Beibl neu'r Qur'an, er bod rhai traddodiadau yn meddwl bod rhai ysgrythurau a thestunau'n bwysig ac yn ddylanwadau ar eu credoau a'u hymarferiadau. Defnyddiodd Gardner lyfr a oedd yn cynnwys llawer o wahanol destunau o fewn ei gwfennau, sef Llyfr y Cysgodion, ac addasodd ac ychwanegodd ato'n aml iawn. Yn ei Lyfr y Cysgodion, ceir testunau o wahanol ffynonellau, gan gynnwys y llyfr Aradia, or the Gospel of the Witches (1899) gan Charles Godfrey Leland, ac ysgrifeniadau ocwltiwr yr 20fed canrif gan Aleister Crowley. Mae'r llyfr hefyd yn cynnwys enghreifftiau o farddoniaeth a gyfansoddwyd gan Gardner a'i Archoffeiriades Doreen Valiente, megis Siars y Dduwies.

"Nid yw Llyfr y Cysgodion yn Feibl neu Qur'an. Mae'n llyfr personol sy'n cynnwys swynion sydd wedi'u gweithio i'w berchennog. Yr wyf yn rhoi fy llyfr ichi i'w gopïo er mwyn ichi gychwyn arni: wrth ichi ennill profiad, hepgorwch swynion sydd ddim yn gweithio ichi a disodlwch swynion gyda'r hyn eich bod yn eu hysgrifennu'ch hunan."

- Gerald Gardner i'w ddilynwyr.[70]

Yn debyg i ddefnydd o'r grimwar a ddefnyddir gan swynwyr seremonïol,[71] roedd y llyfr yn cynnwys cyfarwyddiadau ar sut i berfformio defodau a swynion, yn ogystal â barddoniaeth grefyddol a siantiau megis Eko Eko Azarak i'w defnyddio o fewn defodau. Bwriad gwreiddiol Gardner oedd y bydd pob un copi arall y Llyfr yn wahanol, oherwydd y byddai myfyriwr yn copïo'r Llyfr gan ei Archoffeiriad/es, ond yn newid y rhannau nad oedd yn effeithiol. Mae pob un copi o'r Llyfr yn unfath â'r fersiwn a gopïwyd gan yr Archoffeiriades Monique Wilson o Gardner ymysg llawer o Wrachod Gardneraidd heddiw, yn enwedig yn y Taleithiau Unedig, heb ddim byd wedi'i newid. Yn wreiddiol, yr oedd yn rhaid iddynt gadw'r Llyfr yn gyfrinach rhag pobl nad oedd yn perchen ar Wica Traddodiadol Prydeinig, ond cyhoeddwyd darnau o'r Llyfr gan awduron fel Charles Cardell, Lady Sheba, Janet Farrar, a Stewart Farrar.[72][73]

Heddiw, mae ymlynwyr nad yw'n perchen ar draddodiadau Wica Traddodiadol Prydeinig hefyd yn derbyn y cysyniad o'r Llyfr, gyda llawer o Wiciaid unig yn cadw fersiynau eu hunain, weithiau gan gynnwys deunydd o Lyfr y Cysgodion Gardneraidd a gyhoeddwyd yn barod. O fewn traddodiadau eraill, sut bynnag, ni ysgrifennir ymarferiadau byth i lawr, gan olygu nad oes angen Llyfr y Cysgodion.

O fewn traddodiadau Dewiniaeth Draddodiadol, defnyddir gwahanol ffurfiau o lenyddiaeth. Er enghraifft, o fewn Traddodiad 1734, defnyddir erthyglau a ysgrifennwyd gan Robert Cochrane, yn ogystal â'r llythyrau a ysgrifennwyd ganddo fe at Joseph Wilson, Robert Graves[74] ac eraill[75] i Joseph Wilson, sy'n cynnwys cyfarwyddyd cyfriniol.

Symbolau[golygu | golygu cod]

Symbol y Dduwies Driphlyg y lleuad; cynyddu, llawn, a chilio (neu lanw, llawn a thrai).

Defnyddir symbolau amrywiol gan Wiciaid, sy'n debyg i ddefnydd y croeslun gan Gristnogion neu Seren Dafydd gan Iddewon. Y pentagl yw'r symbol mwyaf nodedig a ddefnyddir gan Wiciaid, sydd â phum pwynt, gyda phob un pwynt yn cynrychioli un o'r pum elfen glasurol (daear, aer, tân, dŵr, ac ysbryd/ether). Mae'n cynrychioli hefyd y syniad mai dyn, gyda'i bum ychwanegiad, yw microcosm o'r bydysawd. Mae symbolau eraill a ddefnyddir yn cynnwys y tricwetra a symbol y Lleuad driphlyg o'r Dduwies Driphlyg.

Traddodiadau[golygu | golygu cod]

Yn y 1950au hyd at y 1970au, pan gynhwyswyd y mudiad Wicaidd o grwpiau â llinach yn bennaf megis Wica Gardneraidd, awgrymir "traddodiad" y trosglwyddo gwybodaeth drwy "linach ynydu" (sef rhaeadru gwybodaeth o un i'r llall). Sut bynnag, wrth i fwy a mwy o grwpiau fel hyn ddod yn gyhoeddus, ac fel arfer yn cael eu sefydlu gan bobl heb linach ynydu blaenorol, daeth y term yn gyfystyr am enwad crefyddol o fewn i Wica. Mae llawer o'r math hyn o draddodiadau[76][77] ac mae yna lawer o ymarferwyr unig yn ogystal â'r grwpiau hyn sydd am ymochri'u hunain gydag unrhyw linach benodol, gan ddewis i weithio ar eu pennau eu hunain. Mae yna hefyd gwfennau sydd wedi'u ffurfio ond nad ynt am ddilyn traddodiad penodol, gan ddewis eu dylanwadau ac arferion gydag eclectigiaeth.

Mae traddodiadau sydd â llinach yn ôl i Gerald Gardner yn cynnwys Wica Wica Gardneraidd, Alecsandraidd ac Algardaidd; oherwydd eu hanes uniad, cyfeirir atyn nhw fel arfer fel Wica Traddodiadol Prydeinig, yn enwedig yng Ngogledd America. Mae traddodiadau eraill yn olrhain eu llinach yn ôl i wahanol ffigurau, hyd yn oed os dylanwedir ar eu credoau ac ymarferiadau gan Gardner mewn ffordd fawr neu fach. Mae'r traddodiadau hyn yn cynnwys Crefft Cochrane a Thraddodiad 1734, gyda'r ddau ohonyn nhw'n dechrau gyda Robert Cochrane; y Traddodiad Feri, sefydlwyd gan Victor Anderson a Gwydion Pendderwen; ac Wica Dianigaidd, sefydlwyd gan Zsuzsanna Budapest. Mae'n well gan rai o'r grwpiau hyn alw eu hunain yn Wrachod, trwy hynny yn gwahaniaethu eu hunain o draddodiadau Wica Traddodiadol Prydeinig, sy'n defnyddio'r ansoddair Wicaidd yn hytrach.

Mae Wiciaid Traddodiadol Prydeinig yn mynnu os yw rhywun am fod yn aelod o'r traddodiad hwnnw, yna mae'n rhaid iddo gael seremoni ynydu a berfformir gan berson â llinach yn y traddodiad hwnnw yn barod. Mae rhai grwpiau eraill yn mynnu hyn hefyd. O ganlyniad, gall pob un Wiciaid Traddodiadol Prydeinig olrhain llinach uniongyrchol yn ôl i Gardner. Dyw traddodiadau eraill ddim yn meddwl bod hyn yn angenrheidiol.

Cwfennau ac Wiciaid Unig[golygu | golygu cod]

Trefnir Wica draddodiadol i mewn i gwfennau gydag Archoffeiriaid ac Archoffeiriadesau wedi'u hynydu. Mae cwfennau'n ymreolaethol, ac fel arfer mae Archoffeiriad ac Archoffeiriades yn eu rheoli mewn partneriaeth gyda'i gilydd. Fel arfer maen nhw wedi mynd trwy'r system raddio o'r radd gyntaf, yr ail radd, y drydedd radd, gydag ynydiadau ar eu diwedd. Ambell waith mae'r ail radd yn unig gan yr Archoffeiriad ac Archoffeiriades. Maen nhw'n cael cymorth a chefnogaeth o'r cwfen rhiant wrth iddyn nhw sefydlu cwfen eu hunain. Fel arfer perfformir ynydiadau a hyfforddiant Offeiriad ac Offeiriades newydd o fewn amgylchedd y cylch hudol, ond dyw hyn ddim yn rheol wedi'i osod mewn carreg.

Yn ôl Wica Gardneraidd, mae'n rhaid i gwfen fod ag un ar ddeuddeg aelod, sydd fel arfer y rhif darged, er ond dyw hyn ddim yn rheol wedi'i osod mewn carreg bellach.[29] Mae llawer o gwfennau yn y Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau yn llawer bach, er galle nhw estyn y cwfen i Wiciaid eraill sy'n mynychu defodau "agored." Pan yw cwfennau'n tyfu'r tu hwnt i'u niferoedd delfrydol, maen nhw'n rhannu i mewn i gwfennau eraill, ond yn cadw mewn cysylltiad â'i gilydd a gweithio fel grŵp mawr weithiau. "Gwigfa" yw'r enw am grwpiau sydd yn gwneud hyn.

Cyn cael mynediad ac ynydiad i mewn i gwfen penodol, mae'n rhaid aros o leiaf blwyddyn a diwrnod. Fel arfer gwneir cwrs o astudiaeth yn ystod y cyfnod hwn. O fewn rhai cwfennau, perfformir defod "gysegru" weithiau yn ystod y cyfnod hwn, rhywbryd cyn yr ynydiad go iawn. Mae hyn yn gadael i'r person fynychu rhai defodau ar sail brawf. Mae rhai Wiciaid unig yn dewis i astudio am flwyddyn a diwrnod cyn hunan-gysegru eu hunain i'r grefydd.

Mewn cyferbyniad, mae Wiciaid Eclectig fel arfer yn ymarferwyr unig. Mae rhai o'r ymarferwyr hyn yn mynychu casgliadau a digwyddiadau cymunedol eraill, ond yn cadw eu hymarferiadau ysbrydol (Gwyliau, Defodau'r Lleuad, swyn-gastio, addoli, gwaith hudol, ayyb.) am adeg pan eu bod ar eu pennau eu hunain. Mae Wiciaid Eclectig yn gor-rifo Wiciaid â llinach, ac fel arfer mae eu hymarferiadau yn amrywio'n fwy na Wiciaid â llinach.[78]

Hanes[golygu | golygu cod]

Prif: Hanes Wica

Tarddiadau a Datblygiad Cynnar, 1921-1959[golygu | golygu cod]

Clawr argraffiad cyntaf Witchcraft Today, a ddaeth â Wica i sylw'r cyhoedd

Yn y 1920au a 1930au, cyhoeddodd Eifftiwr Margaret Murray sawl llyfr sy'n manylu'i theorïau'r nad oedd y bobl a gafwyd eu herlid am fod yn wrachod yng nghyfnod Cynnar Diweddar yn Ewrop yn ddilynwyr o Sataniaeth, fel y dywedwyd gan yr erlidwyr, ond yn ymlynwyr o grefydd baganaidd cyn-Cristionogol goroesi, sef Cwlt y Wrach. Er gwaethaf bod y theorïau hyn yn cael eu hamharchu gan ymchwil hanesyddol bellach, roedd ei theorïau'n dderbyniol ar y pryd.

Yn ystod y 1930au, ymddangoswyd y dystiolaeth gyntaf am yr arfer o grefydd Dewiniaeth baganaidd[79] (bellach yn adnabyddadwy fel Wica) yn Lloegr. Ymddengys y sefydlodd nifer o grwpiau o gwmpas y wlad, megis Norfolk,[80] Cheshire[81] a'r Fforest Newydd gyda'r bwriad o barhau traddodiad cwlt y wrach Murray, gyda chrapiau o ddewiniaeth seremonïol, dewiniaeth werin, Saer Rhyddiaeth, Theosoffi, Rhamantiaeth, Neo-derwyddiaeth, mytholeg glasurol a chrefyddau Asiaidd.

Daeth y grefydd yn fwy amlwg yn ystod y 1950au pan ddiddymwyd y Ddeddf Dewiniaeth 1735. Ar ôl diddymwyd y ddeddf hon, dechreuodd pobl i ledaenu fersiynau eu hunain o'r Grefft, megis Charles Cardell, Cecil Williamson a Gerald Gardner. Cyn sefydlu traddodiad ei hun o'r enw Wica Gardneraidd, cafodd Gardner ei ynydu i mewn i Gwfen y Fforest Newydd ym 1939. Lledaenodd Gardner y traddodiad hwn wrth sefydlu grwpiau megis Cwfen Coed Briged. Gyda chymorth ei Archoffeiriades Doreen Valiente ac o ganlyniad o gyhoeddi'i lyfrau Witchcraft Today (1954) a The Meaning of Witchcraft (1959), daeth ei draddodiad yn draddodiad trechaf y wlad yn gyflyn iawn, a lledaenodd y traddodiad i ardaloedd eraill o Ynysoedd Prydain.

Addasiad a lledaeniad, 1960 hyd heddiw[golygu | golygu cod]

Alex Sanders yn arwain cwfen mewn dathliad o ŵyl. Yr unig gyfranogwr â gynau, mae Sanders yn ymarfer ymysg pobl a noeth.

Bu farw Gardner ym 1964, ond parhaodd y Grefft i dyfu heb osteg er gwaethaf cyffrogarwch a phortreadau negyddol o fewn tabloidau Prydeinig. Tyfodd Wica gyda thraddodiadau newydd a sefydlwyd gan bobl megis Robert Cochrane, Sybil Leek, ac Alex Sanders, sylfaenydd Wica Alecsandraidd, a seilir ar Wica Gardneraidd gyda phwyslais ar ddewiniaeth seremonïol. Lledaenodd Wica Alecsandraidd yn gyflym a chafodd lawer o sylw oddi wrth y papurau a theledu. Tua'r un pryd, defnyddid y term "Wica" yn fwy ymestynnol i ddisgrifio "dewiniaeth", a lledaenodd y ffydd i wledydd eraill fel Awstralia a'r Taleithiau Unedig.

Sefydlwyd traddodiadau yn y Taleithiau Unedig ac Awstralia gan bobl eu hunain, weithiau a seilir ar draddodiadau dewiniaeth werin ranbarthol gyda fframwaith sylfaenol o Wica Gardneraidd. Y Traddodiad Fferi gan Victor Anderson, Traddodiad 1734 gan Joseph Wilson, Urdd Uniongred Ddiwygiedig Newydd y Wawr Aur gan Aidan Kelly, ac Wica Dianigaidd gan Zsuzsanna Budapest yw enghreifftiau o'r fath draddodiadau, gyda phob un traddodiad yn canolbwyntio ar agweddau gwahanol o'r ffydd.[82] Tua'r un pryd, cyhoeddwyd llyfrau ynglŷn ag addysgu pobl sut i fod yn wrach heb ynydiad neu hyfforddiant ffurfiol, megis Mastering Witchcraft (1970) gan Paul Huson ac The Book of Shadows (1971) gan Lady Sheba. Cyhoeddwyd llyfrau tebyg yn ystod y 1980au a 1990au gan awduron fel Doreen Valiente, Janet Farrar, Stewart Farrar, a Scott Cunningham. Poblogeiddiodd Cunningham y syniad o hunan-ynydu i mewn i'r Grefft.

Yn ystod y 1990au, ymhlith llawer o bobl sydd wedi hunan-ynydu eu hunain i mewn i'r Grefft, dechreuodd y cyfryngau i archwilio "dewiniaeth", a dechreusant i greu ffilmiau fel The Craft a chyfresau teledu fel Charmed. O ganlyniad, cyflwynwyd llawer o bobl ifanc i'r syniad o ddewiniaeth grefyddol. Ar ôl hynny, darparwyd gwybodaeth ar y rhyngrwyd gan awduron fel Silver Ravenwolf, ond beirniadwyd y symudiad hwn gan grwpiau traddodiadol ac unigolion Wicaidd. Mewn ymateb i'r ffordd y portreadwyd Wica yn drendi, eclectig, a chyda dylanwad gan fudiadau'r Oes Newydd, trodd lawer o wrachod i draddodiadau cyn-Gardneraidd, ac i draddodiadau cydymgeiswyr Gardner fel Cardell a Cochrane, a dechreusant i ddisgrifio eu hunain fel dilynwyr o "ddewiniaeth draddodiadol", megis Cultus Sabbati gan Andrew Chumbley a chwfen Cernywaidd o'r enw Ros an Bucca.

Geirdarddiad[golygu | golygu cod]

Derbyniwyd y term Wica (hefyd "Wicca") gan y cyhoedd pan gyfeiriodd at y grefydd ei hun yn y 1960au a 1970au. Cyn hynny, defnyddiwyd y term "Dewiniaeth" fel arfer. Tra seilir y term cyfredol o wicca ar Hen Saesneg, a gyfeiriodd at swyngyfareddwyr/dewiniaid benywaidd yn unig, nid yw neb yn gwybod pwy a fathodd y term gyda'i briflythyren, ond dyfalir mai Charles Cardell oedd e, oherwydd defnyddiodd Cardell y term "Wiccen" yn ystod y 1950au.

Demograffeg[golygu | golygu cod]

Ni ŵyr neb y niferoedd gwirioneddol o Wiciaid sydd yn y byd, a nodir ei fod yn anodd sefydlu'r niferoedd o bobl sy'n aelodau o draddodiadau Neo-baganaidd, oherwydd y strwythur anhrefnus sydd ganddynt.[83] Wedi dweud hynny, mae Adherents.com, gwefan annibynnol sy'n arbenigo mewn casglu bras-amcan y niferoedde led led y byd, yn dyfynnu dros drideg ffynhonnell sy'n amcangyfrif y niferodd o bobl sy'n Wiciaid (o Unol Daleithiau America a'r DU yn bennaf). Gyda'r amcangyfrifon hyn, maen nhw wedi canfod canolrif o tua 800,000 aelod.[84] Yn Unol Daleithiau America, cynhaliwyd ceisiadau at ganfod ffigur, ac amcangyfrifodd Arolwg Adnabod Crefyddol America (2001) fod 134,000 yn adnabod eu hunain fel Wiciaid - cymharer hwn gyda 8,000 ym 1990.[85] Mae Wiciaid hefyd yn gyfran arwyddocaol o grwpiau gwahanol o fewn gwlad benodol; er enghraifft, y ffydd ddi-Gristnogol mwyaf a ymarferir yn Awyrlu Unol Daleithiau America yw Wica, oherwydd bod 1,434 o bobl wedi dweud eu bod yn Wiciaid.[86]

"Dyn Cocêsaidd yn ei bedwardegau, neu ddynes yn ei thridegau yw'r Wicaid gyffredinol. Mae addysg gweddol dda ganddo, ac nid yw'n ennill llawer ond nid yw'n gor-ganolbwyntio ar bethau daearol ychwaith. Yn ôl demograffwyr, mae'n dod o'r dosbarth canol-isaf."

Yn y Deyrnas Unedig, nid oes modd i rifau'r cyfrifiad gael eu dadansoddi'n gywir o ran traddodiadau o dan y pennawd o "Paganiaeth", oherwydd anogodd ymgyrch a ddechreuwyd gan y Ffederasiwn Paganaidd cyn y Cyfrifiad 2001 Wiciaid, Paganiaid, Derwyddon ac eraill i ddefnyddio'r un term o 'Bagan' er mwyn uchafu'r niferoedd. Am y tro cyntaf, roedd pobl yn gallu ysgrifennu tadogaeth ni ymdriniwyd â hi gan y rhestr dicio o grefyddau cyffredin, a datganodd cyfanswm o 42,262 bobl o Gymru, yr Alban, a Lloegr i fod yn Baganiaid wrth ddefnyddio'r dull hwn. Ni ddadansoddwyd y ffigurau hyn yn syth gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ond cawsant eu rhyddhau ar ôl cais iddynt gan Ffederasiwn Paganaidd, cangen yr Alban.[88]

Derbyniad o Wiciaid[golygu | golygu cod]

O ganlyniad i ddefnydd y pentagram gwrthdroëdig gan Eglwys Sataniaeth, mae Wiciaid yn cael eu cam-adnabod fel Sataniaid.

Daeth Wica i sylw'r cyhoedd mewn gwlad Gristionogol, ac ers ei dechrau mae hi wedi dioddef gwrthwynebydd gan grwpiau Cristionogol a chan papurau tabloid poblogaidd megis News of the World. Mae rhai grwpiau Cristionogol yn dweud mai ffurf o Sataniaeth yw Wica, er gwaethaf gwahaniaethau pwysig rhwng y ddwy grefydd hyn,[89] megis diffyg ffigwr Satanaidd o fewn ei diwinyddiaeth. Oherwydd y cyhuddiadau negyddol hyn, mae llawer o Wiciaid yn ymarfer y traddodiad yn gyfrinachol, gan guddio'u crefydd oherwydd ofn erledigaeth. Mae rhai pobl, hefyd, wedi cyhuddo Wica o fod yn wrth-Gristionogol, sy'n ddatganiad a wrthodir gan Wiciaid fel Doreen Valiente, a ddywedodd tra bod llawer o Wiciaid yn edmygu Iesu, "nid oes llawer o barch am athrawiaethau'r eglwysi gan Wiciaid, a ystyrir ganddynt yn ddogma gwneud".[90]

Yn yr Unol Daleithiau, mae nifer o benderfyniadau cyfreithiol wedi gwella a dilysu statws Wica, yn enwedig Dettmer v. Landon ym 1985. Fodd bynnag, mae Wiciaid wedi dod ar draws gelyniaeth gan rai gwleidyddion a sefydliadau Cristnogol,[91][92][93] gan gynnwys cyn-arlywydd yr Unol Daleithiau George W. Bush, a ddywedodd nad yw'n creu mai crefydd yw Wica.[94]

Yn ôl hanes Wica a roddwyd gan Gerald Gardner, mae Wica yn goroesi o gwlt y wrach Ewropeaidd a erlidiwyd yn ystod y treialon gwrachod. Mae ymchwiliadau ysgolheigaidd modern wedi datgelu, fodd bynnag, bod y treialon hyn yn sylweddol llai nag y hawliwyd gan Gardner, ac yn anaml ar gais awdurdodau crefyddol.[95] Amharchir damcaniaethau o gwlt y wrach pan-Ewropeaidd wedi'i drefnu, yn ogystal â threialon tyrfa, yn fawr iawn, ond mae'n dal yn gyffredin i Wiciaid gydymdeimlo gyda dioddefwyr y treialon gwrachod.[96]

Mae rhai wedi dweud mai cangen y symudiad Oes Newydd yw Wica, cais a wrthodir yn ffyrnig gan y rhan fwyaf o Wiciaid a hefyd gan haneswyr fel Ronald Hutton, sy'n nodi bod Wica yn rhagflaenu symudiad yr Oes Newydd, a hefyd ei bod gwahaniaethu mawr rhyngddynt o ran athroniaeth cyffredinol.[97]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Kemp, Anthony (1993). Witchcraft and Paganism Today. Llundain: Michael O'Mara. ISBN 1854791176
  2. Hutton, Ronald (1999). The Triumph of the Moon: A History of Modern Pagan Witchcraft. Oxford, Efrog Newydd, yr Unol Daleithiau: Oxford University Press. ISBN 0198207441
  3. Gardner, Gerald B (1999). Witchcraft Today. Lake Toxaway, Efrog Newydd, yr Unol Daleithiau: Mercury Publishing. OCLC 44936549
  4. Adler, Margot (1979). Drawing Down the Moon: Witches, Druids, Goddess-worshippers and Other Pagans in America Today. Boston, yr Unol Daleithiau: Beacon Press. ISBN 0-8070-3237-9
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 Gallagher, Ann-Marie (2005). The Wicca Bible: the Definitive Guide to Magic and the Craft. Dinas Efrog Newydd, yr Unol Daleithiau: Sterling Publishing. ISBN 140273008X Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "Gallagher2005" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
  6. Farrar, Janet a Farrar, Stewart. (1987). The Witches' Goddess: The Feminine Principle of Divinity. Llundain: Robert Hale. Tudalen 2-3.
  7. Farrar, Janet; Farrar, Stewart (1987). The Witches' Goddess: The Feminine Principle of Divinity. Llundain: Robert Hale. ISBN 0709028008
  8. Pearson, Joanne; Roberts, Richard H; Samuel, Geoffrey (Rhagfyr 1998). Nature Religion Today: Paganism in the Modern World. Caeredin: Edinburgh University Press. ISBN 0-748-61057-XURL. OCLC 39533917
  9. Ravenwolf, Silver (1998). Teen Witch: Wicca for a New Generation. Llewellyn
  10. Gardner, Gerald (1959). The Meaning of Witchcraft. Aquarian
  11. Farrar, Janet; Farrar, Stewart (1989). The Witches' God: Lord of the Dance. Llundain: Robert Hale. ISBN 0709033192
  12. Howard, Michael (2009). Modern Wicca. Woodbury, Minnesota: Llewellyn. Tud 266-267
  13. Howard, Michael (2009). Modern Wicca. Woodbury, Minnesota: Llewellyn. Tudalen 271.
  14. 14.0 14.1 Farrar, Janet; Farrar, Stewart (1989). The Witches' God: Lord of the Dance. Llundain: Robert Hale. ISBN 0709033192
  15. Farrar, Janet; Farrar, Stewart (1989). The Witches' God: Lord of the Dance. Llundain: Robert Hale. ISBN 0709033192
  16. Farrar, Janet a Farrar, Stewart. (1987). The Witches' Goddess: The Feminine Principle of Divinity. Llundain: Robert Hale. Tudalen 29-37.
  17. Farrar, Janet a Farrar, Stewart. (1987). The Witches' Goddess: The Feminine Principle of Divinity. Llundain: Robert Hale. Tudalen 38-44.
  18. Farrar, Janet; Farrar, Stewart (1989). The Witches' God: Lord of the Dance. Llundain: Robert Hale. ISBN 0709033192
  19. Farrar, Janet; and Stewart Farrar (1981). A Witches' Bible: The Complete Witches Handbook. Llundain: Phoenix Publishing. ISBN 0919345921. OCLC 62866821
  20. Gardner, Gerald B [1959] (1988). The Meaning of Witchcraft. Lakemont, Georgia, yr Unol Daleithiau: Copple House Books
  21. Hutton, Ronald (1991). The Pagan Religions of the Ancient British Isles. Blackwell. ISBN 0-631-17288-2
  22. Gardner, Gerald B [1959] (1988). The Meaning of Witchcraft. Lakemont, Georgia, yr Unol Daleithiau: Copple House Books
  23. Crowther, Patricia (1974). Witch Blood! The Diary of a Witch High Priestess!. Dinas Efrog Newydd, yr Unol Daleithiau: House of Collectibles. ISBN 0876371616. OCLC 1009193
  24. Cunningham, Scott. Wicca: A Guide for the Solitary Practitioner
  25. Farrar, Janet; a Gavin Bone (Ionawr 2004). Progressive Witchcraft: Spirituality, Mysteries, and Training in Modern Wicca. Franklin Lakes, New Jersey, yr Unol Daleithiau: New Age Books. ISBN 1564147193. OCLC 53223741
  26. Adler, Margot (1979). Drawing Down the Moon: Witches, Druids, Goddess-worshippers and Other Pagans in America Today. Boston, yr Unol Daleithiau: Beacon Press. ISBN 0-8070-3237-9. OCLC 6918454
  27. Crowley, Vivianne. Wicca: The Old Religion in the New Millennium
  28. The Wicca Bible gan Anne-Marie Gallagher, Godsfield, Tudalennau 34 hyd at 39
  29. 29.0 29.1 Buckland, Raymond (1986). Buckland's Complete Book of Witchcraft. Saint Paul, Minnesota, yr Unol Daleithiau: Llewellyn, tud. 17, 18, 53. ISBN 0-87542-050-8URL. OCLC 14167961
  30. Valiente, Doreen (1973). An ABC of Witchcraft Past and Present. Hale, tud. Cyflwyniad
  31. 31.0 31.1 31.2 31.3 31.4 Hutton, Ronald (1999). Triumph of the Moon: A History of Modern Pagan Withcraft. Oxford University Press, tud. 392 Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "Hutton" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
  32. Farrar, Stewart. What Witches Do, tud. 88
  33. Hutton, Ronald (1999). Triumph of the Moon, tud. 392
  34. 34.0 34.1 34.2 Valiente, Doreen (1973). An ABC of Witchcraft Past and Present. Hale, tud. 231
  35. 35.0 35.1 Adler, Margot (2006). Drawing Down the Moon: Witches, Druids, Goddess-worshippers and Other Pagans in America Today. Penguin, tud. 158-159
  36. Huson, Paul (1970). Mastering Witchcraft. Tudalen 27. Putnam.
  37. Gallagher, Ann-Marie (2005). The Wicca Bible. Godsfield, tud. 250-265
  38. Gallagher, Ann-Marie (2005). The Wicca Bible. Godsfield, tud. 321
  39. Mathiesin, Robert; Theitic (2005). The Rede of the Wiccae. Providence, Rhode Island: Olympian Press. Tudalen 60-61
  40. Harrow, Judy (26 Chwefror 2007) (1985). Exegesis on the Rede, Harvest, Cyfrol 5, Rhifyn 3. URL
  41. Farrar, Janet; a Stewart Farrar [1981] (Mai 1992). Eight Sabbats for Witches. Llundain: Robert Hale Publishing. ISBN 0709047789. OCLC 26673966
  42. Valiente, Doreen (1989). The Rebirth of Witchcraft. Llundain: Robert Hale Publishing. ISBN 0709037155. OCLC 59694320
  43. Hutton, Ronald [1999] (2005-05-24). The Triumph of the Moon: A History of Modern Pagan Witchcraft. Dinas Efrog Newydd, yr Unol Daleithiau: Oxford University Press. ISBN 0198207441. OCLC 41452625
  44. Gardner, Gerald B (1954). Witchcraft Today. Llundain: Rider and Company. OCLC 1059746
  45. Adler, Margot [1986] (2006). Drawing Down the Moon: Witches, Druids, Goddess-worshippers and Other Pagans in America Today. Penguin
  46. Zell-Ravenheart, Oberon; Zell-Ravenheart, Morning Glory (2006). Creating Circles & Ceremonies. Franklin Lakes, New Jersey, yr Unol Daleithiau: New Page Books. ISBN 1564148645URL
  47. Lamond, Frederic R (2004). Fifty Years of Wicca. Lloegr: Green Magic. ISBN 0954723015
  48. Valiente, Doreen (1989). The Rebirth of Witchcraft. Llundain: Hale. Tudalen 124.
  49. Valiente, Doreen [1973] (1988). An ABC of Witchcraft Past and Present. Custer, Washington, yr Unol Daleithiau: Phoenix Publishing. ISBN 0-919345-77-8
  50. Adler, Margot (2005 [1979]). Drawing Down the Moon: Witches, Druids, Goddess-worshippers and Other Pagans in America. Penguin, tud. 164
  51. Adler, Margot [1979] (2005). Drawing Down the Moon: Witches, Druids, Goddess-worshippers and Other Pagans in America. Penguin
  52. Adler, Margot [1979] (2005). Drawing Down the Moon: Witches, Druids, Goddess-worshippers and Other Pagans in America. Penguin, tud. 173
  53. Adler, Margot [1979] (2005). Drawing Down the Moon: Witches, Druids, Goddess-worshippers and Other Pagans in America. Penguin, tud. 174
  54. Crowley, Vivianne. Wicca: The Old Religion in the New Age (1989) Llundain: The Aquarian Press. ISBN 0-85030-737-6
  55. Leland, Charles (1899). Aradia, or the Gospel of the Witches. David Nutt. Tudalen 7.
  56. Farrar, Janet; Farrar, Stewart (1984). The Witches' Way: Principles, Rituals and Beliefs of Modern Witchcraft. Phoenix Publishing, tud. 156 hyd at 174. ISBN 0919345719
  57. Farrar, Janet a Farrar, Stewart. Eight Sabbats for Witches (1981) (cyhoeddwyd fel Rhan 1 o A Witches' Bible, 1996) Custer, Washington, USA: Phoenix Publishing Inc. ISBN 0-919345-92-1
  58. Gary, Gemma (2008). Traditional Witchcraft: A Cornish Book of Ways. Troy Books. Tudalen 147.
  59. Evans, Emrys (1992). Mythology. Little Brown & Company. ISBN 0-316-84763-1. Tudalen 170.
  60. Gardner, Gerald B [1959] (2004). The Meaning of Witchcraft. Red Wheel, tud. 10
  61. Lamond, Frederic (2004). Fifty Years of Wicca. Sutton Mallet, Lloegr: Green Magic, tud. 16–17. ISBN 0-9547230-1-5
  62. Gallagher, Anne-Marie. (2005). The Wicca Bible: The Definitive Guide to Magic and the Craft. Llundain: Godsfield Press. Tudalen 67.
  63. Gallagher, Anne-Marie. (2005). The Wicca Bible: The Definitive Guide to Magic and the Craft. Llundain: Godsfield Press. Tudalen 72.
  64. Simpson, Jacqueline (2005). Witching Culture: Folklore and Neo-Paganism in America, Cyfrol 116
  65. 65.0 65.1 65.2 Stewart, Farrar. The Witches' Way Pennawd II - Yr Ail Ynydiad
  66. 66.0 66.1 Stewart, Farrar. The Witches' Way Pennawd III - Ynydiad y Drydedd Radd
  67. Huson, Paul (1970). Mastering Witchcraft: A Practical Guide for Witches, Warlocks and Covens. Efrog Newydd, yr Unol Daleithiau: Putnum, tud. 22–23. OCLC 79263
  68. Gallagher, Anne-Marie. (2005). The Wicca Bible: The Definitive Guide to Magic and the Craft. Llundain: Godsfield Press. Tudalen 370.
  69. Hutton, Ronald (1999). The Triumph of the Moon: A History of Modern Pagan Witchcraft. Oxford, Efrog Newydd, yr Unol Daleithiau: Oxford University Press, tud. 325. ISBN 0198207441
  70. Lamond, Frederic (2004). Fifty Years of Wicca. Tudalen 14. Green Magic.
  71. Crowley, Vivianne (1989). Wicca: The Old Religion in the New Age. Llundain: Aquarian Press, tud. 14 a 15. ISBN 0-85030-737-6
  72. Farrar, Janet; Farrar, Stewart (1996). A Witches' Bible. Custer, Washington, yr Unol Daleithiau: Phoenix Publishing. ISBN 0-919345-92-1
  73. Gardner, Gerald (2004). gol. Naylor, A R (ed.): Witchcraft and the Book of Shadows. Thame, Lloegr: I-H-O Books. ISBN 1872189520
  74.  Robert Cochrane's Letters to Robert Graves. The Cauldron (24 Mai 2010).
  75. Cochrane, Robert; Michael Howard and Evan John Jones (2003). The Robert Cochrane Letters: An Insight into Modern Traditional Witchcraft. Lloegr: Capall Bann Publishing. ISBN 1861632215
  76.  Beaufort House Index of English Traditional Witchcraft. Beaufort House Association (1999-01-15).
  77.  Different types of Witchcraft. Hex Archive.
  78.  Cwestiynau Cyffredin Wica Traddodiadol Prydeinig. New Wiccan Church International.
  79. Heselton, Philip (Tachwedd 2001). Wiccan Roots: Gerald Gardner and the Modern Witchcraft Revival. Freshfields, Chieveley, Berkshire: Capall Bann Pub.. ISBN 1861631103. OCLC 46955899 Gweler hefyd Nevill Drury. "Why Does Aleister Crowley Still Matter?" argraffiad Richard Metzger. Book of Lies: The Disinformation Guide to Magick and the Occult. Disinformation Books, 2003.
  80. Bourne, Lois (1998). Dancing With Witches. Hale. Tudalen 51.
  81. Heselton, Philip (2003). Gerald Gardner and the Cauldron of Inspiration. Capall Bann. Tudalen 254.
  82. Holzer, Hans (1972). The New Pagans. Garden City, Efrog Newydd, yr Unol Daleithiau: Doubleday. OCLC 281240
  83. Bonewits, I (2005)How Many "Pagans" Are There?
  84. Adherents.com Statistical summary pages: W Cyrchwyd 17 Mehefin 2010
  85.  American Religious Identification Survey. City University of New York.
  86. http://www.airforcetimes.com/news/2010/01/airforce_religion_011610w/
  87. Ruickbie, Leo (2004). Witchcraft Out of the Shadows. Hale. Tud. 177.
  88. Pagans and the Scottish Census of 2001 Cyrchwyd 18 Hydref 2007
  89. Davis, Derek; Hankins, Barry (2003). New Religious Movements and Religious Liberty in America, ail, Waco, yr Unol Daleithiau: Baylor University Press, tud. 75. ISBN 0918954924URL. OCLC 52895492
  90. Valiente, Doreen (1973). An ABC of Witchcraft Past and Present. Hale
  91. 'Satanic' Army Unworthy of Representing United States , Free Congress Foundation, 9 Mehefin 1999. Cyrchwyd ar 11 Gorffennaf 2007.
  92. Silk, Mark (1999). Something Wiccan This Way Comes, 2, Rhifyn 2. URL
  93. Barr's Witch Project: Lawmaker Wants to Ban Witches from the Military , LawStreet Journal, 1 Tachwedd 1999. Cyrchwyd ar 11 Gorffennaf 2007.
  94. George W. Bush Justifies Off-The-Cuff Bigotry , Positive Atheism Magazine, 1 Mehefin 1999. Cyrchwyd ar 30 Tachwedd 2008.
  95. Briggs, Robin (1998). Witches and Neighbors: The Social and Cultural Context of European Witchcraft. Penguin. ISBN 0-14014-438-2
  96. Buckland, Raymond (2002-09-01). Witchcraft From The Inside: Origins of the Fastest Growing Religious Movement in America. St. Paul, Minnesota, yr Unol Daleithiau: Llewellyn Publications. ISBN 1-56718-101-5. OCLC 31781774
  97. Hutton, Ronald (1999). The Triumph of the Moon: A History of Modern Pagan Witchcraft. Oxford University Press, tud. 412 a 413

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

Gweithiau hanesyddol arwyddocaol
Ymarferiadau a Chredoau
Hanes Wica
  • Aidan A. Kelly, Crafting the Art of Magic: A History of Modern Witchcraft, 1939-1964 (St Paul: Llewellyn, 1991). ISBN 0-87542-370-1.
  • Ronald Hutton, The Triumph of the Moon: A History of Modern Pagan Witchcraft (Oxford University Press, 1999).
Wica mewn gwledydd eraill
  • Helen A. Berger, A Community of Witches: Contemporary Neo-Paganism and Witchcraft in the United States (Columbia: University of South Carolina Press, 1999).
  • Chas S. Clifton, Her Hidden Children: The Rise of Wicca and Paganism in America (Lanham, Md.: AltaMira Press, 2006).
  • Sabina Magliocco, Witching Culture: Folklore and Neo-Paganism in America (University of Pennsylvania Press, 2004)
  • Lynne Hume, Witchcraft and Paganism in Australia (Melbourne: Melbourne University Press, 1997).
Cyffredinol
  • Raymond Buckland, The Witch Book: The Encyclopedia of Witchcraft, Wicca, and Neo-paganism (Detroit: Visible Ink Press, 2002).
  • James R. Lewis, Witchcraft Today: An Encyclopedia of Wiccan and Neopagan Traditions (Santa Barbara: ABC-CLIO, 1999).
  • Shelly Rabinovitch a James R. Lewis, eds., The Encyclopedia of Modern Witchcraft and Neo-Paganism (Efrog Newydd: Kensington Publishing, 2002).
  • James R. Lewis, ed., Magical Religion and Modern Witchcraft (Albany: State University of New York Press, 1996).
  • T. M. Luhrmann, Persuasions of the Witch's Craft: Ritual Magic in Contemporary England (Llundain: Picador, 1994).

Dolennau allanol[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Chwiliwch am Wica
yn Wiciadur.