Deffro'r Gwanwyn (sioe gerdd)

Oddi ar Wicipedia
Deffro'r Gwanwyn
Enghraifft o'r canlynolsioe gerdd Edit this on Wikidata
Dyddiad y perff. 1af1 Mawrth 2011 Edit this on Wikidata


Poster hyrwyddo llwyfaniad gwreiddiol Theatr Genedlaethol Cymru o Deffro'r Gwanwyn (Mawrth 2011) gydag Ellen Ceri Lloyd ac Aled Pedrick

Sioe gerdd roc yw Deffro'r Gwanwyn, sy'n drosiad Cymraeg o'r sioe gerdd wreiddiol Spring Awakening, gan Duncan Sheik a Steven Sater.

Plot[golygu | golygu cod]

Mae'r sioe gerdd yn seiliedig ar ddrama Almaeneg Frühlings Erwachen (Deffro'r Gwanwyn) a ysgrifennwyd ym 1891 gan y dramodydd Frank Wedekind. Roedd yn ddrama ddadleuol iawn ar y pryd, a waharddwyd yn yr Almaen am gyfnod oherwydd ei phortread cignoeth o erthylu, cyfunrywioldeb, trais rhywiol, cam-drin plant a hunanladdiad. Mae'r ddrama'n ymwneud â deffroad rhywiol criw o arddegolion yn yr Almaen ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Y cynhyrchiadau Cymraeg[golygu | golygu cod]

Ym mis Mawrth 2011, llwyfannwyd Deffro'r Gwanwyn gan Theatr Genedlaethol Cymru, cyfieithiad Cymraeg o'r sioe gan y dramodydd Dafydd James. Gwerthwyd pob tocyn a bu canmoliaeth fawr i'r cynhyrchiad[1]. Aeth y Theatr ar daith unwaith eto gyda'r sioe ym mis Tachwedd 2011, gyda rhai newidiadau i'r cast.[2][3]

Cast cynhyrchiad gwreiddiol Llundain a'r ddau gynhyrchiad Cymraeg.

Cymeriad Cast y cynhyrchiad Cymraeg gwreiddiol Cast yr ail gynhyrchiad Cymraeg
Melchior Aled Pedrick Aled Pedrick
Wendla Ellen Ceri Lloyd Ellen Ceri Lloyd
Moritz Iddon Jones Iddon Jones
Ilse Lynwen Haf Roberts Nia Ann
Oedolion (Dynion) Dyfed Thomas Dyfed Thomas
Oedolion (Merched) Ffion Dafis Victoria Pugh
Hanschen Owain Gwynn Tomos Eames
Georg Daniel Lloyd Siôn Ifan
Martha Zoe George Zoe George
Ernst Meilir Rhys Williams Meilir Rhys Williams
Otto Berwyn Pearce Berwyn Pearce
Anna Elain Lloyd Elain Llwyd
Thea Elin Llwyd Elin Llwyd

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  1.  Adolygiad yn y Cymro. Paul Griffiths (Blogspot) (18 Mawrth 2011).
  2.  Deffro'r Gwanwyn ar Daith Unwaith Eto. Theatr Genedlaethol Cymru (2 Hydref 2011).
  3.  Cipolwg 'Deffro'r Gwanwyn', Elin Williams. National Theatre Wales Community (3 Tachwedd 2011).