De duodecim abusivis saeculi

Oddi ar Wicipedia
De duodecim abusivis saeculi
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurPseudo-Cyprian Edit this on Wikidata
IaithLladin Edit this on Wikidata


Traethawd Lladin ar foeseg gymdeithasol yw De duodecim abusivis saeculi (sef "Ynglŷn â deuddeg camarfer y Byd"). Bu'n llyfr poblogaidd yn yr Oesoedd Canol. Credir mai Gwyddel o'r 7g oedd yr awdur.[1]

Awduraeth a chynnwys[golygu | golygu cod]

Yn yr Oesoedd Canol priodolid y traethawd hwn i Sant Padrig, Awgwstws o Hippo neu Cyprian o Carthago, ond gwyddys erbyn hyn mai gwaith awdur dienw o dde Iwerddon yn y 7g ydyw.[1]

Prif ffynonellau'r traethawd yw Rheol y Benedictiaid, Etymologiae Isidore o Sevilla, a Sylwebaeth Sierôm ar Yr Efengyl yn ôl Mathew. Ond ei brif ddiddordeb i ysgolheigion Celtaidd ydy'r posiblrwydd cryf ei fod yn cynnwys defnydd o'r hen gyfreithiau Gwyddelig cyn-Gristnogol, yn enwedig yn achos yr adran ar y 'brenin anghyfiawn' (rex iniquus).[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Bernhard Maier, Dictionary of Celtic Religion and Culture (Boydell Press, 2000).