De Sudan
|
|||||
| Arwyddair: "Cyfiawnder, Rhyddid, Llwyddiant" | |||||
| Anthem: "South Sudan Oyee!" | |||||
| Prifddinas | Juba | ||||
| Dinas fwyaf | Juba | ||||
| Iaith / Ieithoedd swyddogol | Saesneg | ||||
| Llywodraeth | |||||
| - Arlywydd | Salva Kiir Mayardit |
||||
| - Is-Arlywydd | Riek Machar |
||||
| Annibyniaeth - Cytundeb Heddwch Cynhwysfawr - Ymreolaeth - Annibyniaeth |
ar Sudan 9 Ionawr 2005 9 Gorffennaf 2005 9 Gorffennaf 2011 |
||||
| Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
640,000 km² (*) |
||||
| Poblogaeth - Amcangyfrif 2006 - Cyfrifiad 2008 - Dwysedd |
7.5-9.7 miliwn1 (*) 8,260,4902 13/km² (*) |
||||
| CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif * * (*) * (*) |
||||
| Indecs Datblygiad Dynol (*) | * (*) – * | ||||
| Arian cyfred | Punt De Sudan (SDG) |
||||
| Cylchfa amser - Haf |
EAT (UTC+3) EAT (UTC+3) |
||||
| Côd ISO y wlad | .sd (.ss wedi'i gynnig) | ||||
| Côd ffôn | +211 |
||||
| 1 Y Cenhedloedd Unedig 2 Dadleuol |
|||||
Gwlad yn nwyrain Affrica yw De Sudan. Fe'i sefydlwyd yn 2005 fel rhanbarth ymreolaethol a gynhwysodd deg talaith yn ne Sudan. Daeth y rhanbarth yn wladwriaeth annibynnol ar 9 Gorffennaf 2011.[1] Mae'n ffinio â Gweriniaeth Canolbarth Affrica i'r gorllewin, Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo i'r de-orllewin, Uganda i'r de, Kenya i'r de-ddwyrain ac Ethiopia i'r dwyrain. Juba, ar lannau Afon Nîl Wen, yw'r brifddinas a'r ddinas fwyaf.
Cristnogaeth ac Animistiaeth yw'r prif grefyddau yn Ne Sudan yn hytrach nag Islam, y brif grefydd yn y gweddill o Sudan. Mae gwrthryfelwyr wedi ymladd dau ryfel cartref yn erbyn llywodraeth Sudan, o 1955 hyd 1972 ac o 1983 hyd 2005. Sefydlwyd y rhanbarth ymreolaethol yn 2005 yn sgîl cytundeb heddwch rhwng llywodraeth Sudan a SPLA/M, y grŵp mwyaf o wrthryfelwyr. Pleidleisiodd De Sudan dros annibyniaeth mewn refferendwm yn Ionawr 2011.[2]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ BBC (8 Gorffennaf 2011). South Sudan becomes an independent nation. Adalwyd ar 8 Gorffennaf2011.
- ↑ BBC (30 Ionawr 2011). South Sudan referendum: 99% vote for independence. Adalwyd ar 30 Ionawr 2011.