Rhaniad Gogledd-De

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o De'r Byd)
Darluniad modern o'r rhaniad Gogledd-De. Mae glas yn cynnwys gwledydd y Gogledd (yr G8 a gwledydd datblygedig/y Byd Cyntaf), a choch yn cynnwys gwledydd y De.

Rhaniad economaidd-gymdeithasol a gwleidyddol bydol sy'n bodoli rhwng y gwledydd datblygedig cyfoethog, a elwir yn "y Gogledd", a'r gwledydd datblygol (yn cynnwys y gwledydd lleiaf datblygedig), a elwir yn "y De", yw'r rhaniad Gogledd-De.[1] Er lleolir y rhan fwyaf o wledydd y Gogledd yn Hemisffer y Gogledd, nid daearyddiaeth sy'n diffinio'r rhaniad yn bennaf. Mae'r Gogledd yn cynnwys pedwar o bum aelod arhosol Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig ac holl aelodau'r G8, ac yn cyfansoddi y Gorllewin a'r Byd Cyntaf gyda nifer o wledydd yr Ail Fyd hefyd. Mae'r term "rhaniad Gogledd-De" dal yn gyffredin, ond mae'r termau "Gogledd" a "De" wedi'u dyddio braidd. Wrth i wledydd dod yn fwy economaidd ddatblygedig, gallent dod yn rhan o'r Gogledd beth bynnag yw eu lleoliad daearyddol, tra ystyrid unrhyw wledydd eraill nad ydynt yn bodloni'r statws datblygedig fel rhan o'r De.[2]

Problemau gyda'r rhaniad[golygu | golygu cod]

Gwanháu'r term rhaniad Gogledd-De wnaeth cwymp y Bloc Sofietaidd a'r tlodi a ddilynodd gan fod nifer o'r cyn-weriniaethau Sofietaidd nawr yn dod o dan statws gwledydd datblygol, ac mae'r term "Ail Fyd" yn anghyffredin ar hyn o bryd. Ar y llaw arall, mae nifer o wledydd a gafodd eu hystyried yn flaenorol yn ddatblygol, megis Pedwar Teigr Asia, nawr yn ddatblygedig ac yn rhan o'r Byd Cyntaf modern; er hyn, mewn rhai mapiau o'r rhaniad Gogledd-De, disgrifir y fath wledydd fel rhan o'r De, sy'n anghyson â'r diffiniad uchod. Hefyd, disgrifir tiriogaethau dibynnol y gwledydd datblygedig fel rhan o'r De, er eu bod yn rhan o'r byd datblygedig.[3]

Y Gogledd: gwledydd datblygedig[golygu | golygu cod]

Yn gyffredinol, cytunir sefydliadau megis Banc y Byd, y Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF) a'r Asiantaeth Gwybodaeth Ganolog (CIA) bod y grŵp o wledydd datblygedig yn cynnwys y gwledydd a thiriogaethau canlynol (yn nhrefn yr wyddor):

     Gwledydd uchel eu hincwm ac economïau datblygedig yn ôl Banc y Byd a'r IMF

Yr Amerig[golygu | golygu cod]

Asia[golygu | golygu cod]

Canolbarth a Gorllewin Ewrop[golygu | golygu cod]

Oceania[golygu | golygu cod]

Gweddill "y Gogledd"[golygu | golygu cod]

Aelodau eraill yr G8[golygu | golygu cod]

Y Balcanau[golygu | golygu cod]

Dwyrain Ewrop[golygu | golygu cod]

Llinell Brandt[golygu | golygu cod]

Lluniad gweledol o'r rhaniad Gogledd-De yw Llinell Brandt; fe'i gynigiwyd gan y Canghellor Almaenig Willy Brandt yn y 1970au. Mae'n amgylchynu'r byd ar ledred o tua 30° G, yn pasio rhwng Gogledd a Chanolbarth America, i ogledd Affrica ac India, ond yn gostwng i'r de er mwyn cynnwys Awstralia a Seland Newydd fel rhan o'r "Gogledd Cyfoethog".

Bwlch Datblygiad[golygu | golygu cod]

Map o'r byd yn dynodi'r Indecs Datblygiad Dynol (2004).      uchel (0.800–1)     canolig (0.500–0.799)     isel (0.300–0.499)     dim safle

Yn ddiweddar mae'r term Bwlch Datblygiad wedi ymddangos i ddisgrifio'r rhaniad Gogledd-De. Mae'r cysyniad hyn yn rhoi mwy o bwyslais ar gau'r bwlch amlwg sydd rhwng gwledydd cyfoethog (mwy economaidd ddatblygedig) a gwledydd tlawd (llai economaidd ddatblygedig). Ffordd dda o fesur ar ba ochr o'r bwlch y mae gwlad yw ei safle ar yr Indecs Datblygiad Dynol (IDD). Yr agosaf yw safle gwlad i 1.0, y mwyaf yw ei lefel datblygiad.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) S-Cool! - GCSE Geography Revision - Quicklearn. Adalwyd ar 19 Mai, 2008.
  2. (Saesneg) North–South divide. tiscali.co.uk. Adalwyd ar 27 Mai, 2008.
  3. Therien. J.P, (1999) Beyond the North-South Divide: the two tales of world poverty. Third World Quarterly. Cyfrol 20. Rhif 4. tud. 723-742

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]