Dax

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Arfbais Dax

Tref a chymuned yn ne-orllewin Ffrainc yw Dax' (Gasconeg: Dacs, Basgeg: Akize). Saif yn département Landes a région Aquitaine, ac mae'n rhan o diriogaeth hanesyddol Gasgwyn. Roedd y boblogaeth yn 1999 yn 19,515.

Enw gwreiddiol y dref oedd Aquæ Tarbellicæ; yn y cyfnod Rhufeinig roedd yn brif dref pagus y Tarbelli. Newidiwyd yr enw i Acqs, d'Acqs, yna Dax. Saif ar lan Afon Adour, tua hanner ffordd rhwng Baiona a Mont-de-Marsan. Mae'n adnabyddus fel spa, oherwydd y dŵr poeth sy'n codi yma, ac fel canolfan rygbi'r undeb.

Afon Adour gyda'r nos yn Dax