David Roberts (Dewi Havhesp)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
David Roberts (Dewi Havhesp)
Jth00873(Dewi Havhesp).jpg
Geni David Roberts
1831
Llanfor, Gwynedd
Marw 1884
Llandderfel, Gwynedd
Enw barddol Dewi Havhesp
Galwedigaeth Bardd
Cenedligrwydd Cymro
Gwaith nodedig Oriau'r Awen
Dylanwad Dewi Wyn o Eifion, Eben Fardd

Bardd Cymraeg oedd David Roberts (Mai, 1831 - Awst, 1884), sy'n fwy adnabyddus wrth ei enw barddol Dewi Havhesp. Fe'i cyfrifir gan rai yn un o englynwyr Cymraeg gorau'r 19eg ganrif.

Cefndir[golygu]

Ganwyd Dewi Havhesp ym mis Mai 1831 ym Mhensingrug, cartref ei rieni, yn Llanfor, ger Y Bala, Meirionnydd. Ef oedd yr hynaf o un ar ddeg o blant. Cymerodd ei enw barddol o nant Hafhesb ger ei gartref. Teiliwr oedd wrth ei alwedigaeth. Un o'i gyfeillion bore oes oedd yr ysgolhaig John Peter (Ioan Pedr). Priododd ei wraig Miriam yn 1855 a chawsant bedwar o blant. Ymsefydlodd y pâr ifanc yng Nghefnddwysarn, ond symudasant yn fuan i fyw yn Llandderfel ac yno y treuliodd y bardd y rhan helaeth o'i oes. Bu farw yn Awst 1884 yn 53 oed.[1]

Gwaith barddonol[golygu]

Cyfansoddodd nifer fawr o englynion a cherddi eraill, ond am iddo lunio englynion yn fyrfyfyr, fel nifer o feirdd lleol eraill ardal Penllyn, heb drafferthu i'w hysgrifennu credir fod canran uchel o'i waith heb ei gofnodi. Un o'i gyfeillion llenyddol oedd y bardd Trebor Mai o Ddyffryn Conwy, yntau'n englynwr poblogaidd yn ei gyfnod. Cyhoeddwyd casgliad o'i gerddi yn 1876, sef Oriau'r Awen. Bu'n llwyddiant mawr a chafwyd ail argraffiad yn 1897 a thrydydd yn 1927.

Un o'i edmygwyr oedd T. Gwynn Jones. Yn ei farn ef,

"Y peth a rydd werth ar waith Dewi yw ei ddawn epigramatig. Nid yw'r ffrwyth bob amser yn gyfartal; bydd weithiau'n mynd yn deneu, ond ni phaid byth â bod yn ddiddorol."[2]

Dyma'r englyn 'Torrwr beddau', er cof am Edward Jones o Landderfel:

Dyma fedd torrwr beddau, — dyn di-roch,
Diwyd iawn drwy 'i ddyddiau,
A gwên bob amser yn gwau,
Ŵr hynaws, ar ei enau.[3]

Ac un arall am ryfel, sef 'Maes Rhyfel':

Oer gri'n gor-rwygo'r awyr, — erwau'n cau
Ar ddarnau cyrff arwyr;
Dylif gwaed, a dolef gwŷr,
Gwneud moelydd o gnawd milwyr.[4]

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Oriau'r Awen (1876; 2il argraffiad 1897; 3ydd argraffiad 1927, Gwasg Y Bala). Ceir rhagymadrodd gan T. Gwynn Jones a 'byr-hanes' gan R. N. Jones yn y 3ydd argraffiad.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Oriau'r Awen (3ydd argraffiad), tt. 18-19.
  2. "Oriau'r Awen (3ydd argraffiad), tud. 15.
  3. Oriau'r Awen (3ydd argraffiad), tud. 55.
  4. Oriau'r Awen (3ydd argraffiad), tud. 64.