David Rees Davies

Oddi ar Wicipedia
David Rees Davies
FfugenwCledlyn Edit this on Wikidata
Ganwyd6 Chwefror 1875 Edit this on Wikidata
Bu farw1964 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Ysgolfeistr, hanesydd lleol a bardd Cymraeg oedd David Rees Davies, enw barddol Cledlyn a oedd hefyd yn ysgrifennu fel D. Cledlyn Davies (6 Chwefror 187529 Rhagfyr 1964).

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed ef yng Nghwrtnewydd, Ceredigion. Aeth i Goleg Prifysgol Aberystwyth yn 1894, cyn mynd yn athro. Bu'n brifathro ysgol Cwrtnewydd o 1902 hyd ei ymddeoliad yn 1935.

Fel bardd, enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, yng Nghorwen 1919 am awdl Y proffwyd, ac yn yr Wyddgrug 1923 am awdl Dychweliad Arthur. Bu'n llywydd Cymdeithas Undodaidd Deheudir Cymru yn 1920, ac fel hanesydd lleol ysgrifennodd Hanes plwyf Llanwenog (1936) gyda'i ail wraig.

Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.