David R. Edwards

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth David R Edwards)
Neidio i: llywio, chwilio

Canwr a bardd yn enedigol o Aberteifi, Ceredigion, yw David R. Edwards. Daeth i'r amlwg fel arweinydd y band roc Datblygu. Yn ôl John Peel, roedd ei gyfansoddiadau gerwiddiol a chlyfar yn ddigon o reswm yn eu hunain i ddysgu'r iaith Gymraeg.[1]

Yn ogystal a Datblygu, gweithiodd David gyda Tŷ Gwydr a Llwybr Llaethog ar L.L. v T.G. MC DRE yn 1992, tua'r un adeg daeth yn athro yn ysgol uwchradd Llanfair Caereinion. Gwahanodd y band oherwydd salwch a dibyniaeth ar alcohol ar ôl rhyddhau eu sengl Putsch yn 1995. Anwybyddwyd ef gan y cyfryngau tan yn ddiweddar, wedi i recordiau Ankst ail-ryddhau Libertino mewn bocs-drifflig ynghyd a'u dau albym cyntaf, Wyau a Pyst.

Cyhoeddwyd hunangofiant Edwards gan Y Lolfa ym mis Hydref 2009, sef Atgofion Hen Wanc.

[golygu] Llyfryddiaeth

  • Atgofion Hen Wanc, Hydref 2009 (Y Lolfa)

[golygu] Cyfeiriadau

[golygu] Dolenni Allanol

  • [1] Bywgraffiad Datblygu ar wefan y BBC
  • [2] Gwefan Datblygu
StubWales.png Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau
Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill