David Petraeus
Oddi ar Wicipedia
Cyn-filwr a swyddog cyhoeddus o Americanwr yw David Howell Petraeus (ynganiad: /pɨˈtreɪ.əs/; ganwyd 7 Tachwedd 1952) a wasanaethodd fel Cyfarwyddwr yr Asiantaeth Gwybodaeth Ganolog o 6 Medi 2011[1] hyd ei ymddiswyddiad ar 9 Tachwedd 2012.[2] Roedd yn gadfridog pedair-seren ym Myddin yr Unol Daleithiau ac yn gadlywydd ISAF a'r lluoedd Americanaidd yn Rhyfel Afghanistan o 4 Gorffennaf 2010 hyd 18 Gorffennaf 2011 a chadlywydd lluoedd y glymblaid yn Rhyfel Irac o 10 Chwefror 2007 hyd 16 Medi 2008.[3]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ "Petraeus sworn in as CIA director". cnn. http://www.cnn.com/video/#/video/us/2011/09/06/petraeus-sworn-into-cia.cnn?iref=allsearch. Adalwyd 2011-09-07.
- ↑ "David Petraeus resigns from CIA". USA Today. http://www.usatoday.com/story/news/nation/2012/11/09/david-petraeus-cia-resign-nbc/1695271/. Adalwyd 2012-11-09.
- ↑ "Gates Notes Shift in Mission as Iraq Command Changes Hands". Defenselink.mil. http://www.defenselink.mil/news/newsarticle.aspx?id=51170. Adalwyd 2010-07-05.