David Owen (Dewi Wyn o Eifion)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Ffermwr a bardd Cymreig oedd David Owen , sy'n fwy adnabyddus fel Dewi Wyn o Eifion (Mehefin 178417 Ionawr 1841).

Ganed yn ffermdy'r Gaerwen ym mhlwyf Llanystumdwy yn Eifionydd. Addysgwyd mewn ysgolion preifat yn nifer o'r penrefi cyfagos, ac am gyfnod byr ym Mangor Is Coed.

Bu'n ffermio yn y Gaerwen am y rhan fwyaf o'i oes, er iddo symud i fyw i Bwllheli o 1827 hyd 1837, daliodd ei afael yn y fferm. Dyswgwyd ef i farddoni gan Robert ap Gwilym Ddu, o fferm gyfagos y Betws Fawr. Enillodd fedal Cymdeithas y Gwyneddigion am awdl Molawd Ynys Brydain ac yn 1811 enillodd wobr eisteddfod Tremadog am Awdl i Amaethyddiaeth. Yn 1819 cystadlodd yn eisteddfod Dinbych ar Awdl Elusengarwch. Collodd y wobr, ac ni fu'n cystadlu eto. Ystyrir yr awdl yma yn un o'i weithiau gorau, ynghyd a'i englynion i Bont Menai (1832). Cyhoeddwyd ei farddoniaeth a chofiant iddo dan y teitl Blodau Arfon yn 1842. Ail-gyhoeddwyd detholiad o'i waith yng Nghyfres y Fil yn 1906.

Dyfyniadau [golygu]

Uchelgaer uwch y weilgi - gyr y byd
Ei gerbydau drosti,
Chwithau holl longau y lli
Ewch o dan ei chadwyni .

(Pont y Borth)

Dwyn ei geiniog dan gwynaw
Rhoi angen un rhwng y naw