David Milwyn Duggan
Oddi ar Wicipedia
Gwleidydd Cymreig yn Alberta, Canada oedd David Milwyn Duggan (5 Mai 1879 – 4 Mai 1942). Bu'n faer Edmonton, yn aelod o Gynulliad Deddfwriaethol Alberta, ac yn arweinydd Plaid Ceidwadol Alberta.
Ganwyd David Duggan yn Llanfair-ym-Muallt, Cymru ym 1879 lle priododd Marian Price. Ymfudodd y ddau i Ganada ym 1905 i fferm ger Nanton, Alberta. Ym 1912 symudodd i Edmonton a sefydlodd Duggan Investments, Ltd., cwmni buddsoddi arian.
Cafodd ei ethol yn faer Edmonton ar 13 Rhagfyr 1920 gan ddisodli Joseph Clarke. Ym 1926, cafodd ei ethol i Gynulliad Deddfwriaethol Alberta.