David Lloyd (comics)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth David Lloyd (comigion))
Neidio i: llywio, chwilio
David Lloyd

Arlunydd yw David Lloyd (ganed 1950) sy'n arbenigo mewn comigion, ac sy'n adnabyddus am ddarlunio stori V for Vendetta, a ysgrifennwyd gan Alan Moore.

Gyrfa[golygu]

Dechreuodd Lloyd weithio ar gomigion yn ystod yr 1970au hwyr, gan ddarlunio ar gyfer Halls of Horror, TV Comic a sawl teitl Marvel UK. Ynghyd â'r awdur Steve Parkhouse, creodd y cymeriad antur pwlp Night Raven.

Pan sefydlodd Dez Skinn gylchgrawn Warrior ym 1982, gofynnodd i Lloyd greu cymeriad newydd pwlp. Roedd Lloyd a'r ysgrifennwr Alan Moore wedi cyd-weithio ar sawl stori ar gyfer Doctor Who gynt, a chreodd y ddau V for Vendetta, antur gyda therfysgwr anarchaidd sy'n ymladd yn erbyn llywodraeth ffasgaidd ddyfodol. Wedi i'r cylchgrawn ddod i ben ym 1984, ail-argraffwyd y gyfres mewn lliw gan DC Comics ac fel nofel graffeg ym 1995. Addaswyd hefyd yn ffilm a ryddhawyd yn 2006.

Gweithiodd Lloyd hefyd ar Espers, gyda'r ysgrifennwr James D. Hudnall, ar gyfer Eclipse Comics; Hellblazer, gyda'r ysgrifenwyr Grant Morrison a Jamie Delano,[1] a War Story, gyda Garth Ennis, ar gyfer DC; a Global Frequency, gydag Warren Ellis, ar gyfer Wildstorm. Darluniodd hefyd, gyda Delano, The Territory ar gyfer Dark Horse, a gweithiodd hefyd ar deitlau eraill y cwmni megis Aliens and James Bond. Mae hefyd wedi cynhyrchu nofel graffeg, Kickback, ar gyfer y cyhoeddwr Ffrengig Editions Carabas.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Doctor Who (gyda Alan Moore, Marvel UK):
    • "Black Legacy" (yn Doctor Who Magazine #35-38, 1980, ail-argraffwyd yn Doctor Who #14, Marvel Comics)
    • "Business as Usual" (yn Doctor Who Magazine #40-43, 1980 ail-argraffwyd yn Doctor Who #15, Marvel Comics)
    • "The 4-D War" (in Doctor Who Magazine #51, reprinted in The Daredevils #6, 1980)
    • "Black Sun Rising" (yn Doctor Who Magazine #57, hefyd The Daredevils #7, 1980)

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Alexander C. Irvine (2008). gol. Alastair Dougall: The Vertigo Encyclopedia (yn en). Efrog Newydd: Dorling Kindersley, tud. 102–111. OCLC 213309015
  2. Nodyn:Comicbookdb
  3. War Stories: Vol. 1 profile
  4. Nodyn:Comicbookdb
  5. War Stories: Vol. 2 profile