David James Jones (Gwenallt)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Clawr y gyfrol 'Gwreiddiau'.

Roedd Gwenallt (1899 - 24 Rhagfyr 1968) (David James Jones) yn un o feirdd mwyaf yr ugeinfed ganrif. Fe'i ganwyd ym Mhontardawe ond fe symudodd y teulu yn fuan i'r Alltwen, yng Nghwm Tawe.

Ei fywyd a'i waith[golygu]

Cafodd marwolaeth ei dad a laddwyd gan fetel tawdd yn y gwaith tun effaith ddofn arno. Er ei fagu mewn ardal ddiwydiannol roedd dylanwad ardal wledig Rhydcymerau Sir Gaerfyrddin arno hefyd, am iddo ymweld ac aros gyda pherthnasau yno lawer yn ei fachgendod.

Roedd yn ddarlithydd yn Adran Gymraeg Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth ac fe'i siomwyd pan na chafodd ei apwyntio i fod yn Athro ar yr adran i ddilyn T.H. Parry-Williams. Ef oedd golygydd cyntaf y cylchgrawn llenyddol Taliesin a gyhoeddir gan yr Academi Gymreig.

Am ei fod yn wrthwynebydd cydwybodol fe'i carcharwyd yn Wormwood Scrubs a Dartmoor ac ysgrifennodd ei nofel Plasau'r Brenin o ganlyniad i'r profiad hwnnw.

Daeth yn amlwg fel bardd pan enillodd ei awdl Y Mynach gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1926. Enillodd y Gadair eto yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1931 gyda Breuddwyd y Bardd.

Llyfryddiaeth[golygu]

Nofelau[golygu]

Cerddi[golygu]

Gwaith golygyddol a beirniadaeth lenyddol[golygu]

  • (gol.), Yr Areithiau Pros (Caerdydd, 1934)
  • (gol.), Blodeugerdd o'r Ddeunawfed Ganrif (Caerdydd, 1936)
  • (gol.), Detholiad o Ryddiaith Gymraeg R. J. Derfel (Caerdydd, 1945)
  • Cofiant Idwal Jones (1958)

Astudiaethau[golygu]

Paratowyd llyfryddiaeth o weithiau Gwenallt gan Iestyn Hughes (1983).

  • J.E. Meredith, Gwenallt, Bardd Crefyddol (1974)
  • David Rowland, Gwenallt (Cyfres "Bro a Bywyd", 1982)