David James Bowen

Oddi ar Wicipedia
David James Bowen
Ganwyd1925 Edit this on Wikidata
Bu farwAwst 2017 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata

Ysgolhaig o Gymro sy'n arbenigwr ar waith Beirdd yr Uchelwyr yw David James Bowen (D. J. Bowen) (19253 Awst 2017).[1] Fe'i ystyrir yn un o haneswyr llenyddiaeth Gymraeg mwyaf yr 20g.

Brodor o Sir Benfro yw D. J. Bowen. Bu'n ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Abergwaun, lle daeth dan ddylanwad D. J. Williams a oedd yn athro yno. Cafodd ei addysg brifysgol yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth lle daeth yn aelod o'r Adran Gymraeg lle cafodd gadair yn 1980.

Mae wedi cyfrannu nifer fawr o erthyglau dysgedig ar farddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar a chyfnod y Tuduriaid, yn cynnwys gwaith Dafydd ap Gwilym. Ond ei brif ddiddordeb fu hanes a gwaith y bardd Gruffudd Hiraethog (m. 1564). Cyhoeddodd astudiaeth o'i fywyd a'i oes a chyfrol fawr o gerddi'r bardd, a gyhoeddwyd yn 1990. Mae'n nodweddiadol o'i waith ei fod yn ymdrin yn drylwyr â'r cefndir hanesyddol a chymdeithasol.

Llyfryddiaeth ddethol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]