David Halberstam

Oddi ar Wicipedia
David Halberstam
Ganwyd10 Ebrill 1934 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Bu farw23 Ebrill 2007 Edit this on Wikidata
Menlo Park, California Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethhanesydd, ysgrifennwr, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • The New York Times Company Edit this on Wikidata
PriodElżbieta Czyżewska Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Norman Mailer, Gwobr Elijah Parish Lovejoy, Gwobr George Polk, Gwobrau Llyfrau Americanaidd, Pulitzer Prize for International Reporting Edit this on Wikidata

Newyddiadurwr ac awdur o Americanwr oedd David Halberstam (10 Ebrill 193423 Ebrill 2007).[1] Roedd yn ohebydd rhyfel yn Fietnam yn ystod yr argyfwng Bwdhaidd a Rhyfel Fietnam, ac enillodd Wobr Pulitzer ym 1964 am ei adroddiadau o'r wlad honno.[2] Roedd yn rhan o garfan o newyddiadurwyr, gan gynnwys Peter Arnett a Malcolm Browne, a gafodd ffrae yng Ngorffennaf 1963 gyda heddlu cudd Ngô Đình Nhu. Ei lyfr enwocaf yw The Best and the Brightest (1972), hanes o weinyddiaethau'r Arlywydd Kennedy a'r Arlywydd Johnson a sut y ddatblygodd bolisi tramor Americanaidd yn y 1960au i ddanfon lluoedd i Fietnam.[3][4]

Bu farw mewn damwain ffordd yn Menlo Park, Califfornia.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Hodgson, Godfrey (25 Ebrill 2007). Obituary: David Halberstam. The Guardian. Adalwyd ar 8 Mai 2013.
  2. (Saesneg) Haberman, Clyde (24 Ebrill 2007). David Halberstam, 73, Reporter and Author, Dies. The New York Times. Adalwyd ar 8 Mai 2013.
  3. (Saesneg) Obituary: David Halberstam. The Daily Telegraph (25 Ebrill 2007). Adalwyd ar 8 Mai 2013.
  4. (Saesneg) Obituary: David Halberstam. The Economist (3 Mai 2007). Adalwyd ar 8 Mai 2013.
  5. (Saesneg) Weil, Martin a Lamb, Yvonne Shinhoster (24 Ebrill 2007). David Halberstam, 1934-2007: Author Uncloaked Vietnam Blunders. The Washington Post. Adalwyd ar 8 Mai 2013.


Baner Unol Daleithiau AmericaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.