David Griffith (Clwydfardd)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
David Griffith Clwydfardd

Bardd, beirniad ac eisteddfodwr amlwg oedd David Griffiths (29 Tachwedd 1800 - 30 Hydref 1894), sy'n fwy adnabyddus dan ei enw barddol Clwydfardd.

Bywgraffiad[golygu]

Ganed David Griffith yn nhref Dinbych, Sir Ddinbych ar 29 Tachwedd 1800. Mabwysiadodd yr enw barddol 'Clwydfardd' ar gyfer cystadlu yn yr eisteddfod.

Clwydfardd oedd Archdderwydd cyntaf Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Gwasanaethodd yn y swydd o 1876 hyd 1894. Fel bardd nid yw'n ffigwr pwysig o gwbl — mae ei gerddi hirwyntog yn enghraifft o gynnyrch y "bardd eisteddfodol" sy'n nodweddiadol o'r cyfnod — ond fel archdderwydd a beirniad roedd ganddo statws uchel a lle amlwg iawn yng nghymdeithas Cymru yn chwarter olaf y 19eg ganrif.

Dolenni allanol[golygu]


Planned section.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.