David A. Kolb

Oddi ar Wicipedia
David A. Kolb
Ganwyd1939 Edit this on Wikidata
Moline, Illinois Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethaddysgwr, seicolegydd, blogiwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Case Western Reserve Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://dkolb.org Edit this on Wikidata

Haniaethydd addysg yw David A. Kolb (g. 1939). Mae David Kolb yn athro mewn Ymddygiad Cyfundrefnol yn Ysgol Rheolaeth Weatherhead ers 1976, a chydweithiodd gyda Roger Fry ar ddysgu drwy brofiad.

Y Cylch Dysgu[golygu | golygu cod]

Dadlodd y gellir gweld y broses o ddysgu fel cylch sy’n dechrau gyda’r profiad a gawn, a’r adfyfyrio a wnawn yn dilyn y profiad i’r damcaniaethu sy’n dilyn at y profi i weld os oedd ein profiad gwreiddiol yn brofiad dilys a chywir. Dyna oedd damcaniaeth David A. Kolb (1984) a ddatblygodd y “cylch dysgu” (yn ôl Kurt Lewin) gyda Roger Fry.

Mae'n hawdd deall syniad Kolb os cofion y tro cyntaf i ni losgi ein bys yn y tân drwy gamgymeriad. Roeddem wedi ystyried neu adfyfyrio fod y profiad o losgi yn ein brifo, ac i ni ddamcaniaethu wedyn fod tân poeth yn ein llosgi. Er mwyn profi’r ddamcaniaeth rydym yn gosod ein bys yn fwriadol agos iawn at y tân i deimlo’r gwres uchel, ond gan wneud yn siŵr hefyd ein bod ni ddim yn ail adrodd y camgymeriad gwreiddiol! Mewn ffordd cyfuniad yw'r cylch dysgu o nodweddion dysgu traddodiadol a nodweddion datrys problemau. Gallwn ddeall sut mae pobl yn cynhyrchu cysyniadau rheolau ac egwyddorion o’u profiadau eu hunain er mwyn arwain at ymddygiad mewn sefyllfaoedd newydd. Cyfuniad o’r goddefol( dysgu drwy adfyfyrio a damcaniaethu) a’r gweithredol (dysgu drwy brofiad ac arbrofi).

Gwaith y darlithydd yn y gyfundrefn hon yw rhoi profiadau o’r byd go iawn i’r myfyrwyr mewn amgylchiadau diogel lle y gallwn adfyfyrio, damcaniaethu ac arbrofi. Mae'r cylch dysgu yma yn troi yn barhaol gan ein bod yn profi ein damcaniaethau yn barhaol, yn cael profiadau newydd yn barhaol ,ac ati.

Arddulliau dysgu[golygu | golygu cod]

Roedd David Kolb a Roger Fry (1975) wedi dadlau fod dysgu effeithlon yn ymwneud â phedair gallu sef: i brofi mewn modd diriaethol (concrete), i adfyfyrio drwy arsylwi, i gysyniadau yn haniaethol ac i arbrofi yn ymarferol. Roedd y pedwar gallu yma yng nghyd fynd gyda’r pedwar cam yn y cylch dysgu. Ac enwodd Kolb a Fry y pedwar gallu yn bedwar arddull o ddysgu sef:-

  • Cydgyfeiriydd (cydsyniadau haniaethol + arbrofi ymarferol)
  • Dargyfeiriydd (profiad diriaethol + adfyfyrio)
  • Cymathydd (cydsyniadau haniaethol +adfyfyrio
  • Cymhwysydd (profiad diriaethol +arbrofi ymarferol)

Datblygodd Honey and Mumford (1992) hefyd ddamcaniaeth wedi ei seilio ar syniad Kolb a Fry o’r Cylch Dysgu sef fod pob un o’r gwahanol gamau uchod yn cynrychioli arddull o ddysgu. Yn eu barn hwy mae rhai myfyrwyr yn dysgu yn well drwy gael profiadau, eraill drwy adfyfyrio, rhai drwy ddamcaniaethu a’r gweddill drwy arbrofi. Felly ceir myfyrwyr sy’n:

  • Weithredwyr – sef dysgu drwy brofiad gweithredol
  • Adfyfyrwyr – sef yn dysgu drwy adfyfyrio
  • Damcaniaethwyr - sef yn dysgu drwy wneud damcaniaethau
  • Ymarferwyr – sef yn dysgu drwy arbrofi yn ymarferol

Mewn gwirionedd mae rhan fwyaf yn dysgu drwy gymysgedd o’r arddulliau yma, er bod yna duedd tuag at un arddull yn fwy na’r lleill mewn llawer. Honant fod darlithydd da yn rhoi'r gwahanol gyfleoedd yma i ddysgu drwy wneud yn siŵr fod y gwersi yn cynnwys elfennau o brofiad, adfyfyrio, damcaniaethu a phrofi.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]