David Pugh (AS Trefaldwyn)

Oddi ar Wicipedia
David Pugh
Ganwyd14 Awst 1789 Edit this on Wikidata
Lewisham Edit this on Wikidata
Bu farw20 Ebrill 1861 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata

Roedd David Pugh (14 Awst 178920 Ebrill 1861) yn fasnachwr te, yn dirfeddiannwr ac yn wleidydd Ceidwadol Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Bwrdeistref Trefaldwyn yn Nhŷ'r Cyffredin ym 1832 ac eto rhwng 1847 a 1861.[1]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Ganwyd David Pugh yn Lewisham, Swydd Gaint[2]; yn unig fab i Charles Pugh, Perry Hill, a Jane Lloyd ei wraig a merch William Lloyd.

Ym 1814 priododd Pugh, ei gyfnither, Anne, unig ferch ac aeres Evan Vaughan Bugeildy, Sir Faesyfed. Bu iddynt dri mab a dwy ferch, sef:

  • David Pugh, a aned 24 Ebrill, 1815, a bu farw 15 Medi, 1857, yn ddi-briod.
  • Charles Vaughan Pugh a anwyd ym 1818; bu farw ym 1874, heb blant.
  • Margaret Ann Pugh, a briododd John Samuel Willes Johnson, Neuadd Hannington, Wiltshire; etifedd ystâd ei dad yng nghyfraith a'i olynydd fel AS Bwrdeistref Trefaldwyn
  • Mary Jane Pugh, bu farw 1869.
  • John Cadwalader Pugh, a anwyd ym 1826 a bu farw ym 1851, yn ddi-briod[3]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ar farwolaeth ei hen fodryb ym 1819, daeth Pugh yn berchennog ystâd ei hen ewyrth David Lloyd o Llanerchyddol, ger y Drenewydd a'i gwmni mewnforio te David Lloyd and Piggot, Rood Lane, Llundain, un o fasnachwyr te mwyaf gwledydd Prydain hyd y 1920au.

Roedd Pugh yn Gapten yng Nghatrawd Gwŷr Meirch Gwirfoddol Sir Drefaldwyn o 1819 hyd i'r gatrawd gael ei ddiddymu ym 1828. Ar ymgorfforiad y Gwŷr Meirch Iwmyn Sir Drefaldwyn ym 1831, fe'i penodwyd yn uwch gapten; cyn iddo ymddiswyddo'i gomisiwn ym 1844.

Roedd yn Gofiadur Llys y Trallwng.

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod]

Safodd fel ymgeisydd Torïaidd / Ceidwadol yn etholiad cyffredinol 1832 gan ennill y frwydr yn erbyn ei wrthwynebydd Chwig/Rhyddfrydol John Edwartds; Heriodd Edwards y canlyniad ger bron Llys Etholiadol y Senedd; enillodd yr achos a gorchymynnwyd etholiad newydd, gan wahardd Pugh rhag ail ymgeisio.

Safodd eto yn etholiad 1847, fel Ceidwadwr mwy Rhyddfrydol na'r ymgeisydd Ceidwadol swyddogol Hugh Cholmondeley. Canlyniad yr etholiad oedd bod y ddau ymgeisydd yn gyfartal.

Etholiad cyffredinol 1847: Bwrdeistref Trefaldwyn
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr David Pugh 389 50
Ceidwadwyr Hugh Cholmondeley 389 50
Mwyafrif 0
Y nifer a bleidleisiodd 79.2

Gan fod y ddau ymgeisydd yn gyfartal bu'n rhaid i bwyllgor seneddol pennu'r buddugol; gan na wnaed cais i'r pwyllgor i gefnogi achos Cholmondeley dros gadw'r sedd etholwyd Pugh.[4][5] Cadwodd ei sedd hyd ei farwolaeth ym 1861. Ni ynganodd gair mewn dadl yn Nhŷ'r Cyffredin, ond yr oedd yn ffyddlon ei gefnogaeth i'w blaid gyda'i bleidlais ar bob achlysur gofynnwyd amdano.

Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Sir Drefaldwyn ym 1823.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yn Llanerchyddol, yn 71 mlwydd oed a'i chladdu yn Eglwys y Drenewydd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Montgomeryshire Worthies, Williams, Richard, 1894 t264 [1] adalwyd 9 Medi 2015
  2. Yr Archif Genedlaethol Cyfrifiad 1851 HO107/1487; Ffolio: 399; tud: 4
  3. Cylchgronau Cymru Montgomeryshire collections - Vol. 49 1946 The Lloyds of Montgomery t255 [2] adalwyd 9 Medi 2015
  4. James, Arnold J a Thomas, John E. Wales at Westminster - A History of the Parliamentry Representation of Wales 1800-1979 Gwasg Gomer 1981 ISBN 0 85088 684 8
  5. Curious Welsh Elections Cardiff Times 10 Tachwedd 1900 [ http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3426819/ART14] adalwyd 14 Ebrill 2015
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Henry Clive
Aelod Seneddol Bwrdeistref Trefaldwyn
18321833
Olynydd:
John Edwards
Rhagflaenydd:
Hugh Cholmondeley
Aelod Seneddol Bwrdeistref Trefaldwyn
18471861
Olynydd:
John Samuel Willes Johnson