David Owen (telynor)

Oddi ar Wicipedia
David Owen
Ganwyd27 Ionawr 1712 Edit this on Wikidata
Ynyscynhaearn Edit this on Wikidata
Bu farwAwst 1741 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyfansoddwr Edit this on Wikidata

Roedd David Owen (17101739 neu efallai 17201749)[1] neu Dafydd y Garreg Wen, y telynor enwog, yn byw ar fferm Y Garreg Wen ym mhlwyf Ynyscynhaearn ger Morfa Bychan, Porthmadog yn y 18g.

Garreg Wen ger Porthmadog, cartref i'r telynor Dafydd y Garreg Wen

Cyfansoddodd Dafydd yr alawon "Dafydd y Garreg Wen", "Codiad yr Ehedydd" a "Rosalin Castle". Defnyddir "Codiad yr Ehedydd" bellach yn ymdeithgan gyflym gan y Gwarchodlu Cymreig. Bu farw'n 29 oed, a gofalodd Elis Owen, Cefnymeysydd, fod carreg fedd teilwng yn cael ei ei godi, a gweithiodd yr englyn canlynol ar y garreg:

'Swynai'r fron, gwnai'r llon y llu - a'i ganiad
Oedd ogoniant Cymru,
Dyma lle cadd ei gladdu
Heb ail o'i fath, Jubal fu.'

Bedd[golygu | golygu cod]