Dauphin

Oddi ar Wicipedia

Teitl a roddid i etifeddion gwrywaidd uniongyrchol brenin Ffrainc o 1350 hyd 1830 yw Dauphin.

Dauphin oedd enw personol, ac yn nes ymlaen teitl, rheolwyr y Dauphiné, cyn-dalaith Ffrengig a brynwyd gan y Siarl V ifanc yn 1350, cyn iddo gael ei wneud yn frenin. Wedi iddo esgyn i orsedd Ffrainc yn 1364 rhoddodd y Dauphiné a'r teitl Dauphin i'w fab, gan ymsefydlu arfer a barhaodd hyd ymddiswyddiad Siarl X o'r frenhiniaeth yn 1830.