Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru oedd un o bynciau gwleidyddol a chrefyddol mwyaf chwerw y bedwaredd ganrif ar bymtheg yng Nghymru. Yn hanesyddol ac yn gyfreithiol, caif y Mesur hwn ei gyfri'n gam pwysig gan mai dyma un o'r troeon cyntaf i ddarn o gyfraith gwlad gael ei greu'n benodol am Gymru, yn hytrach nac am Gymru a Lloegr.[1]

Yng Nghymru fe'i gwelwyd fel coron ar waith a brwydrau hir a gychwynwyd yng nghanol y 19eg ganrif gyda'r Anghydffurfwyr yn ei harwain, ymgyrchoedd megis Rhyfel y Degwm pan ataliodd cannoedd o bobl rhag talu arian prin (degfed rhan o'u hincwm) i'r Eglwys yn Lloegr. Ym mhlith yr ymgyrchwyr hyn yr oedd Thomas Gee, Tom Ellis a Chymru Fydd.

Gyda sefydlu'r Liberation Society yn 1844 troes yr holl eglwysi Anghydffurfiol, gan gynnwys y Methodistiaid Calfinaidd, i gefnogi'r alwad. Ar ôl dros 60 mlynedd o ymgyrchu a dadlau pasiwyd mesur i ddatgysylltu'r eglwys yn Senedd San Steffan yn 1914 ond oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf ni ddaeth i rym tan 1920.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Philip Bell, Irish and Welsh Disestablishment (1969)
  • K.O. Morgan, Freedom or Sacrilege? (1966)
  • David Walker (gol.), A History of the Church in Wales (1976)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Jenkins, P. (1992) A History of Modern Wales 1536–1990. Harlow: Longman
Baner CymruEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Cruz template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.