Darjeeling

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad Darjeeling yn India.

Brynfa (hill-station) 7,000' uwch lefel y môr, poblogaeth tua 75,000, wrth droed yr Himalaya ym mryniau Gorllewin Bengal, gogledd-ddwyrain India yw Darjeeling; mae'n golygu hefyd hefyd y rhanbarth o'r un enw, Darjeeling District, sy'n cynnwys tref Darjeeling ei hun, Kalimpong, Kurseong a Siliguri, gyda phoblogaeth o tua 1.4 miliwn (a'r mwyafrif yn byw yn Siliguri, wrth droed y bryniau).

Mae'r enw yn llygriad o'r enw Tibeteg Dorje-ling ("mangre'r taranfollt"). Mae mwyafrif y boblogaeth o dras Nepalaidd ac yn siarad Nepaleg. Ceir hefyd nifer sylweddol o ffoaduriaid Tibetaidd ynghyd â chanran isel o Fengalwyr a phobl o rannau eraill o India. Yn ogystal ceir rhai pobl Lepcha, trigolion brodorol Sikkim a'r cylch, yn byw yn y bryniau. Mae'r economi yn seiliedig ar dyfu te.

Hanes Darjeeling[golygu]

Y cefndir[golygu]

Golygfa dros Darjeeling gyda Kanchenjunga yn y cefndir, o Tiger Hill

Hyd at ddechrau’r 18fed ganrif yr oedd bryniau Darjeeling a Kalimpong yn rhan o Sikkim. Yn 1706 collodd Sikkim ardal Kalimpong i Bhwtan ac yn 1780 cipiodd rheolwyr Gorkhaidd Nepal weddill y diriogaeth. Arweiniodd hyn at wrthdaro rhwng y Gorkhiaid a’r British East India Company a reolai Bengal ar y pryd. Ar ôl cyfres o fân ryfeloedd gorchfygwyd y Gorkhiaid a meddianwyd yr ardal i’r de o Darjeeling gan y Cwmni dan gytundeb â Sikkim a olygodd hefyd fod y Prydeinwyr yn gwaranti sofraniaeth Sikkim ac yn cyfryngu rhwng y wlad honno a’i chymdogion.

Yn 1828 anfonwyd dau swyddog Prydeinig i asesu’r sefyllfa yn ardal Darjeeling. Awgrymodd y swyddogion y byddai Darjeeling yn safle ardderchog i godi iechydfa a brynfa, ar lun y rhai yr oedd y Prydeinwyr eisoes wedi’u sefydlu yn Shimla, yn 1819, ac yn llefydd eraill yng ngogledd-orllewin India, lle gallai swyddogion y Cwmni a’u teuluoedd ddianc o dro i dro rhag gwres a lleithder Bengal. Ar sail adroddiad y swyddogion aeth yr awdurdodau yn Calcutta ati i berswadio raja Sikkim i roi Darjeeling i’r Prydeinwyr yn gyfnewid am stipend flynyddol o 3000 Rupee (a godwyd i Rs 6000 yn 1846). Yn ogystal â bod yn safle dymunol ar gyfer yr iechydfa byddai hynny'n rhoi cyfle i’r Prydeinwyr gadw golwg ar weithgareddau Nepal a Bhwtan ac yn eu galluogi i reoli’r fasnach bwysig rhwng dwyrain India a Thibet.

Prydain a Sikkim[golygu]

Y temlau ar Observatory Hill, Darjeeling.
St. Andrew's Church, Darjeeling. Built- 1843, Rebuilt- 1873

Ofnai’r Tibetwyr fod Prydain yn ceisio meddianu Sikkim, a oedd yn ddeiliad i Dibet, gyda’r bwriad o ymestyn eu dylanwad i Dibet ei hun. Ar sawl ystyr roeddent yn llygad eu lle canys dirywiodd economi Lhasa a dwyrain Tibet a dechreuodd cynnyrch rhad y gerddi te newydd yn Darjeeling ddisodli’r te drytach a oedd yn cael ei fewnforio i Dibet o Tseina. Roedd Sikkim ei hun yn rhanedig gyda phlaid ddylanwadol, a arweinwyd gan y prif weinidog, yn ceisio rhwystro’r raja rhag ildio rhagor i’r Prydeinwyr. Pan arestiwyd y botanegydd Joseph Hooker a Dr Campbell, swyddog gweinyddol yn Darjeeling, gan y blaid wrth-Brydeinig wrth iddynt ymweld â Sikkim yn 1849 dan gytundeb rhwng y raja a’r Prydeinwyr gwaethygodd y sefyllfa. Ildiodd y Sikkimiaid i fygythion milwrol y Prydeinwyr, rhyddheuwyd y gwystlon a chyfeddianwyd yr hyn a oedd yn weddill o diriogaeth Sikkim i’r de o’i ffin bresennol. Cynddeiriogwyd y Tibetwyr, a ofnai gael eu gwasgu oddi ar y map gwleidyddol yn ysglyfaeth i’r Gêm Fawr rhwng Prydain, Rwsia a Tseina am reolaeth yng Nghanolbarth Asia, ac yn 1886 anfonodd Tibet gwmni o filwyr i Sikkim. Fe’u gorchfygwyd yn rhwydd gan gatrawd o filwyr Prydeinig a gorfodwyd y Tibetwyr i ildio ei hawl ar Sikkim gan y llu ymgyrch Prydeinig a anfonwyd i Lhasa yn 1888. Parhaodd Darjeeling i ffynnu ac mae’n dal i gael ei rheoli o Calcutta heddiw, fel rhan o dalaith Gorllewin Bengal.

Er bod pentref bach wedi bodoli yn Darjeeling cyn rhyfeloedd Sikkim â Nepal a Bhwtan yn y ddeunawfed ganrif, pan ddaeth y Prydeinwyr yno dim ond mynachlog Dibetaidd oedd ar y bryn coediog, ar y copa a adweinir fel 'Observatory Hill' heddiw. Tyfodd Darjeeling yn gyflym. Agorwyd ffordd iddi yn 1840 ac erbyn 1857 roedd ganddi boblogaeth o ryw 10,000. Roedd llawer o’r bobl hyn yn Nepalwyr, o dras Gorkhaidd yn bennaf, a ddenwyd i weithio yn y gerddi te a oedd yn ymledu dros y bryniau. Erbyn heddiw mae’r rhan fwyaf o’r boblogaeth yn Nepalwyr a’r Nepaleg yw prif iaith y bryniau.

Gorkhaland[golygu]

Ar ôl annibyniaeth India cryfhaodd y teimlad fod llywodraeth bell Gorllewin Bengal yn gwahaniaethu yn erbyn y Gorkhiaid gan fod rhaid iddynt ddysgu Bengaleg i gael swyddi gan y llywodraeth ac nid oedd statws i’r Nepaleg o gwbl. Daeth pethau i’w pen yn yr 1980au pan welwyd terfysg ar raddau mawr yn y bryniau. Collodd rhai cannoedd o bobl eu bywydau a bu’n rhaid i fyddin India symud i mewn i adfer rheolaeth. Y brif blaid y tu ôl i’r helyntion hyn oedd y Gorkha National Liberation Front (GNLF), dan arweiniad Subash Ghising, a oedd yn galw am sefydlu talaith ffederal annibynnol, o fewn India, wrth yr enw Gorkhaland. Yr oedd Plaid Gomiwnyddol (Farcsaidd) India (CPI-M) yn gyfrifol am lawer iawn o’r trais hefyd. Yn dilyn trafodaethau â’r llywodraeth ganolog cytunwyd ar gyfaddawd a sefydlwyd y Darjeeling Gorkha Hill Council (DGHC) yn 1988. Erys Darjeeling yn rhan o Orllewin Bengal ond erbyn hyn mae’n mwynhau llawer mwy o reolaeth ar faterion lleol. Serch hynny mae’r ymgyrch i greu Gorkhaland yn parhau ac yn dominyddu bywyd gwleidyddol Darjeeling heddiw.

Y "Trên Tegan"[golygu]

Dolen Batasia

Mae'r trên bach sy'n cysylltu New Jalpaiguri a Darjeeling yn un o'r rheilffyrdd lled cyfyng enwocaf yn y byd. Fe'i adeiladwyd yn bennaf i gludo cynnyrch y gerddi te i Galcutta er mwyn ei allforio i Brydain ac Ewrop a hefyd i gael offer mecanyddol trwm i fyny i'r bryniau. Dechreuwyd y gwaith ar y rheilffordd yn 1879 ac yn 1881 stemiodd y trên bach cyntaf i mewn i orsaf Darjeeling. Roedd y gwaith yn golygu creu nifer fawr o ddoleni tynn a phontydd ac yn sialens aruthrol i'r peirianwyr, yn arbennig Dolen Batasia, 2 milltir o Darjeeling, lle mae'r trên yn gorfod rhedeg yn ei ôl fesul rhan o'r trac igam-ogam er mwyn ei ddringo. Erbyn heddiw mae'r rheilffordd a'i injans hynafol yn un o brif atyniadau twristaidd gogledd-ddwyrain India ond yn ogystal mae'n dal i wneud ei waith ymarferol yn cludo te i lawr i'r gwastadoedd a nwyddau i fyny i'r bryniau.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • K.C. Bhanja, History of Darjeeling and the Sikkim Himalaya (Delhi Newydd, 1993). ISBN 81-212-0441-0
  • L.S.S. O'Malley, Darjeeling District Gazetteer (1907; adargraffiad Delhi Newydd, d.d.). ISBN 81-212-0496-8
  • Fred Pinn, The Road of Destiny (Calcutta, 1986).
  • H.H. Risley (gol.), The Gazetteer of Sikhim (1928; adargraffiad Delhi, 1999). ISBN 81-86142-50-9
  • Jahar Sen, Darjeeling[:] A Favoured Retreat (Delhi Newydd, 1989). ISBN 81-85182-15-9