Darius III, brenin Persia

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Darius yn ymladd yn erbyn Alecsander Fawr ym Mrwydr Issus

Brenin Ymerodraeth Persia rhwng 336 CC a 330 CC a'r olaf o linach brenhinoedd Achaemenid Persia oedd oedd Darius III, Perseg: داریوش Dāriūš, enw gwreiddiol Codomannus (c. 380 CC - 330 CC).

Yn 338 CC, bu farw ei gefnder, Artaxerxes IV, wedi ei wenwyno gan y rhaglaw Bagoas, gwir reolwr Persia yn y cyfnod hwn. Dewisodd Bagoas roi Codomannus, perthynas i'r teulu brenhinol, ar yr orsedd fel Darius III, ond pan ddangosodd Darius arwyddion a annibynniaeth, ceisiodd ei wynwyno yntau. Wedi darganfod y cynllwyn, gorfododd Darius Bagoas i yfed y gwenwyn ei hun.

Etifeddodd Darius sefyllfa anodd. Roedd gryn Philip II, brenin Macedon yn cynyddu, ac yn 336 CC penododd Cynghrair Corinth ef yn arweinydd hegemon i ddechrau ymgyrch yn erbyn Persia. Llofruddiwyd Philip cyn iddo fedru dechrau'r ymgyrch, ond yn 334 CC arweiniodd ei fab, Alecsander Fawr, fyddin i Asia Leiaf i ddechrau ymgais i goncro Persia, a gorchfygu byddin Bersaidd yn Mrwydr Granicus.

Yn 333 CC daeth Darius i'r maes ei hun, ond ym Mrwydr Issus gorchfygwyd ef a chymerwyd eu deulu yn garcharorion gan Alecsander. Gorchfygwyd ef eto yn 331 CC ym Mrwydr Gaugamela, a ffôdd i Ecbatana tra meddiannodd Alecsander ddinasoedd Babilon, Susa a Persepolis. Gwrthryfelodd Bessus, satrap Bactria, yn erbyn Darius, a'i gymeryd yn garcharor. Ymlidiwyd Bessus gan fyddin Alecsander, ac wrth i'r Maedoniaid ddynesu, llofruddiwyd Darius ar orchymyn Bessus, a'i cyhoeddodd ei hun yn frenin fel Artaxerxes V.

Rhagflaenydd :
Artaxerxes III
Brenhinoedd Achaemenid Ymerodraeth Persia
Darius III
Olynydd :
Alecsander Fawr