Darganfyddiadau a dyfeisiau Cymreig
Oddi ar Wicipedia
Dyma restr o ddarganfyddiadau a dyfeisiau Cymreig, sef darganfyddiadau a dyfeisiau sydd yn rhannol neu yn gyfan gwbl yn bodoli neu'n wybyddus i ddynoliaeth oherwydd cyfraniadau pobl o Gymru.
Gwyddoniaeth [golygu]
- Y gell danwydd, dyfeisiwyd ym 1839 gan William Robert Grove o Abertawe
- Llongau bwrdd hedfan onglog, megis yr Ark Royal: Lewis Boddington (13 Tachwedd 1907 – 7 Ionawr 1994)
- Radar ar gyfer awyrennau: Edward George Bowen CBE (1911–1991)
- Switsio pecynnau ('packet switching') cyfrifiadurol ar gyfer ebost ayb: Donald Davies
- Y Meicroffon a'r teledeipiadur: David Edward Hughes (1831–1900)
Mathemateg [golygu]
- Yr hafalnod, dyfeisiwyd ym 1557 gan Robert Recorde o Ddinbych-y-pysgod
- Defnydd y symbol π (y llythyren Groeg pi) i gynrychioli'r gymhareb rhwng cylchedd cylch a'i ddiamedr, cyflwynwyd ym 1706 gan William Jones o Ynys Môn
Adloniant a hamdden [golygu]
- Gambit Evans, gambit mewn gwyddbwyll a ddyfeisiwyd ym 1826/7 gan William Davies Evans o Sir Benfro