Danny DeVito
Oddi ar Wicipedia
| Danny DeVito | |
|---|---|
| Ganwyd | 17 Tachwedd, 1944 Neptune, New Jersey, |
| Enwau eraill | Daniel Michael "Danny" DeVito |
| Galwedigaeth | Actor, cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd |
Actor, cyfarwyddwr a chynhyrchydd Americanaidd ydy Daniel Michael "Danny" DeVito, Jr. (ganed 17 Tachwedd, 1944). Daeth i amlygrwydd am y tro cyntaf am ei bortread o "Louie De Palma" ar gyfres deledu ABC a NBC Taxi (1978–1983). Ynghyd a'i wraig Rhea Perlman, sefydlodd Jersey Films, cwmni cynhyrchu sy'n enwog am gynhyrchu ffilmiau fel Pulp Fiction, Garden State, a Freedom Writers, a Jersey Television, sydd fwyaf enwog am gynhyrchu cyfres deledu Comedy Central Reno 911!. Ar hyn o bryd, mae'n serennu fel Frank Reynolds yng nghomedi sefyllfa FX It's Always Sunny in Philadelphia.