Danadlwst dermatograffig

Oddi ar Wicipedia
Dermatographic urticaria
Danadlwst dermatograffig, neu
"ysgrifen ar y croen".
Dosbarthu a chyfeiriadaeth allanol
ICD-ICD-10L50.3
ICD- 9708.3
OMIM125635
Afiechydon12736
eMedicinederm/446

Anhwylder croen sy'n effeithio ar 4-5% o boblogaeth y byd ydy danadlwst dermatograffig (a elwir weithiau'n wrticaria dermatograffig). Mae'n un o'r mathau mwyaf cyffredin o ddanadlwst,[1] lle mae'r croen yn codi ac yn llidio pan gaiff ei fwytho, crafu, rhwbio neu daro.[2]

Cyflwyniad[golygu | golygu cod]

Credir i'r symptomau gael eu hachosi gan fastgelloedd ar arwynebedd y croen sy'n rhyddhau histaminau heb antigenau, o ganlyniad i bresenoldeb pilen gwan yn amgylchynnu'r mastgelloedd. Achosa'r histaminau a gaiff eu rhyddhau i'r croen chwyddo yn yr ardal a effeithir.

Dermatographia
Darluniad o danadlwst dermatograffig

Mae'r pilen gwan hwn yn torri'n hawdd o dan bwysedd ffisegol gan achosi adwaith tebyg i alergedd, gan amlaf gan achosi gwrym i ymddangos ar y croen. Gyda'r mwyafrif o achosion, bydd y chwyddo'n lleihau o ran ei hun o fewn 15-30 munud, ond mewn achosion eithafol, gall gwrymau coch, coslyd bara unrhyw beth o rai oriau i rai dyddiau.

Achosion[golygu | golygu cod]

Ni wyddir achos sylfaenol danadlwst dermatograffig, a gall barhau am nifer o flynyddoedd heb iachad. Caiff 5% o achosion cronig fyth mo'u datrys. Gwelwyd cynnydd yn y nifer o achosion o ganlyniad i fod ger meicrodonau dros gyfnod hir.[3][4] Gall yr anhwylder gilio a diflannu am gyfnod; fodd bynnag, mae'n gyflwr gydol oes. Nid yw'n afiechyd sy'n peryglu bywyd ac nid yw'n heintus.

Gall symptomau waethygu gan gyfnodau o straen, pryder, dillad tynn, oriorau, sbectolau, gwres neu oerfel,[5] neu unrhyw beth sy'n achosi straen i'r croen.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: Danadlwst dermatograffig o'r Saesneg "Dermatographic urticaria". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Am. J. Med. Genet. 39 (2): 201–203. 1991. doi:10.1002/ajmg.1320390216. PMID 2063925. http://onlinelibrary.wiley.com/doi/10.1002/ajmg.1320390216/abstract.
  2. Kontou-Fili (1997). Physical urticaria: classification and diagnostic guidelines. An EAACI position paper, Cyfrol 52, Rhifyn 5, tud. 504–513. DOI:10.1111/j.1398-9995.1997.tb02593.xURL
  3.  Sadčikova (1973). Manifestations of Reactions to Microwave Irradiation in Various Occupational Groups. Cyhoeddwyr Meddygol Gwlad Pwyl.
  4. Hocking. Microwave sickness: a reappraisal, Cyfrol 51, Rhifyn 1, tud. 66–69. URL
  5. Kaplan. Unusual cold-induced disorders: cold-dependent dermatographism and systemic cold urticaria. DOI:10.1016/0091-6749(84)90354-3URL