Damweiniau a digwyddiadau awyrennu

Oddi ar Wicipedia
Awyren Junkers 88 Almaenig a saethwyd i lawr ger Mallwyd ar ei ffordd i Lerpwl; Awst 1940. Geoff Charles.

Diffinnir damwain awyrennu gan Atodiad 13 y Sefydliad Hedfan Sifil Rhyngwladol (ICAO). Gellir crynhoi'r diffiniad fel:

Digwyddiad sy'n gysylltiedig â gweithrediad awyren sy'n digwydd rhwng yr amser mae unrhyw berson yn byrddio'r awyren gyda'r bwriad o hedfan ac yr amser mae pob person wedi dat-fyrddio, lle bo:
a) person wedi ei anafu'n angheuol neu'n ddifrifol
b) yr awyren yn dioddef o ddifrod neu fethiant adeileddol; neu
c) yr awyren ar goll neu'n llwyr anghyraeddadwy.

Diffinnir digwyddiad awyrennu fel:

Digwyddiad ar wahân i ddamwain, sy'n gysylltiedig â gweithrediad awyren, sy'n effeithio neu gall effeithio ar ddiogelwch gweithrediad.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am awyrennu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.