Dakhla

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Dakhla

Dinas yng Ngorllewin Sahara yw Dakhla (Dajla), neu ad-Dakhla (Arabeg: الداخلة‎) (hen enw, yn Sbaeneg: Villa Cisneros). Gyda phoblogaeth o 67,468 o bobl, mae'n gorwedd tua 550 km i'r de o El Aaiún ar orynys gyfyng ar lan y Cefnfor Iwerydd. Mae'n brifddinas Oued Ed-Dahab-Lagouira, un o 16 rhanbarth Moroco.

Sefydlwyd Dakhla fel Villa Cisneros yn 1502 gan Sbaen. Rhwng 1975 a 1979 bu ym meddiant Mauritania ond ers hynny mae ym meddiant Moroco, er bod nifer o'r Sahrawi yn ei hawlio fel rhan o'r Weriniaeth Ddemocrataidd Arabaidd Sahrawi.

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
Africa stub icon.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Affrica. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Flag of Morocco.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Foroco. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato