Dai Llewellyn

Oddi ar Wicipedia
Dai Llewellyn
Ganwyd2 Ebrill 1946 Edit this on Wikidata
Aberdâr Edit this on Wikidata
Bu farw13 Ionawr 2009 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Coleg Eton
  • Prifysgol Aix-Marseille
  • Milton Abbey School
  • Hawtreys Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, cymdeithaswr, travel agent, newyddiadurwr, model Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Annibyniaeth y DU Edit this on Wikidata
TadHarry Llewellyn Edit this on Wikidata
MamChristine Saumarez Edit this on Wikidata
PriodVanessa Hubbard Edit this on Wikidata
PlantOlivia Llewellyn, Arabella Llewellyn Edit this on Wikidata

Cymdeithaswr oedd Syr David St Vincent "Dai" Llewellyn, 4ydd Barwnig (2 Ebrill 194613 Ionawr 2009). Fe'i ganwyd yn Aberdâr yn fab i Syr Harry Llewellyn, 3ydd Barwnig a enillodd fedal aur am farchogaeth yng Ngemau Olympaidd 1952, ac yn frawd hŷn i Roddy Llewellyn, 5ydd Barwnig, a gafodd berthynas gyda'r Dywysoges Margaret.

Gadawodd Llewellyn Cymru yn 2003 gan ddweud na fyddai byth yn dychwelyd. Dywedodd bod personau wedi dwyn o dai oedd yn eiddo iddo yn Llanhiledd a honnodd fod rhywun wedi difrodi'r chwe thŷ oedd yn hen gartrefi glowyr, yn ogystal â rhoi'r bai am ei ffarwel ar "genedlaetholdeb cul" a "thactegau bwlian" oedd yn gorfodi disgyblion i ddysgu'r Gymraeg.

Safodd yn etholiadau'r Cynulliad yn 2007 fel ymgeisydd plaid UKIP.

Bu farw Llewellyn yn 62 mlwydd oed ar 13 Ionawr 2009 mewn ysbyty yng Nghaint o ganser. [1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. BBC Newyddion – Syr Dai Llewellyn yn marw , BBC Newyddion, 14 Ionawr 2009.