Dag Hammarskjöld

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Dag Hammarskjöld y tu allan i bencadlys y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd.

Diplomydd, economegydd ac awdur o Sweden ac Ysgrifenydd Cyffredinol Y Cenhedloedd Unedig oedd Dag Hjalmar Agne Carl Hammarskjöld (29 Gorffennaf 190518 Medi 1961). Bu yn y swydd o Ebrill 1953 tan ei farwolaeth mewn damwain awyren ym Mis Medi 1961 yn 47 oed. Ef, hyd yma, yw'r ieuengaf i ddal y swydd ail Ysgrifennydd y CU. Mae hefyd yn un o'r unig dri pherson erioed i dderbyn Gwobr Nobel wedi iddo farw,[1] a'r unig Ysgrifennydd Cyffredinol i farw wrth ei waith. Bu farw ar ei ffordd i gyfarfod negydu heddwch.

Mewn teyrnged iddo galwodd yr Arlywydd John F. Kennedy ef "y gwladweinydd mwyaf a gawsom am ganrif gyfan."[2]

Cefndir personol[golygu]

Ganwyd Dag Hammarskjöld yn Jönköping, Sweden, ond treuliodd lawer o'i blentyndod yn Uppsala. Ef oedd pedwerydd mab Hjalmar Hammarskjöld, Prf Weinidg Sweden o 1914 hyd 1917, a'i wraig Agnes Hammarskjöld (née Almquist). Bu'n ddisgybl yn Katedralskolan ac yna ym Mhrifysgol Uppsala. Erbyn 1930, roedd ganddo Radd mewn Athroniaeth a Gradd Meistr yn y Gyfraith.

Cyn iddo gwbwlhau ei Radd Meistr roedd wedi sicrhau swydd fel Is-Ysgrifennydd Pwyllgor Diweithdra'r CU.[3]

Rhagflaenydd:
Trygve Lie
Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig
10 Ebrill 195318 Medi 1961
Olynydd:
U Thant

Cyfeiriadau[golygu]