Dafydd Meirion Roberts

Oddi ar Wicipedia
Dafydd Meirion Roberts
Enghraifft o'r canlynolbod dynol Edit this on Wikidata
Dafydd Meirion Roberts, aelod o Ar Log, Prif Weithredwr Sain.

Dafydd Meirion Roberts ydy Prif Weithredwr Cwmni Recordiau Sain ers Ionawr 2004, Cadeirydd Eos a [1] a Chadeirydd Canolfan Gerdd William Mathias. Mae hefyd yn aelod o'r grwp gwerin Ar Log ers ei sefydlu yn 1976.[2]

Magwyd Dafydd a'i frawd Gwyndaf yn Llwyngwril, ger Tywyn yng Ngwynedd, lle mynychodd Ysgol Uwchradd Tywyn. Y tu allan i'r ysgol, dysgodd y delyn deires a'r ffliwt yn ifanc iawn, ac un o'i athrawon oedd Telynores Maldwyn, Nansi Richards.

Datblygodd cwmni Sain yn sydyn iawn yn ystod 2010au dan arweiniad Dafydd Meirion, yn enwedig drwy rhwydweithiau cymdeithasol ar-lein fel iTunes a dosbarthwyr digidol eraill.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. The Guardian; adalwyd 19 Gorffennaf 2014
  2. Gwefan Linkedin Dafydd;[dolen marw] adalwyd 19 Gorffennaf 2014