Dafydd James

Oddi ar Wicipedia
Dafydd James
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Ryngwladol Llundain mewn Celfyddyd Mynegiannol Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, dramodydd, cyfansoddwr, sgriptiwr Edit this on Wikidata

Cyfansoddwr, actor, dramodydd a sgriptiwr Cymreig ydy Dafydd James. Cafodd ei hyfforddi yn y London International School of Performing Arts (LISPA) ac yn ddiweddar cyflwynodd ei ddoethuriaeth mewn perfformio i Brifysgol Warwick.

Mae ef wedi cyfansoddi a chyfarwyddo nifer o sioeau gan gynnwys The Hunting of the Snark; Ghost Shirt; Mythed; Pinocchio; Apocalypse Wow; If That’s All There Is; Blast; Woof Woof Kerching a Geek Tragedy yng Canolfan y Mileniwm, Caerdydd; Under Milk Wood, Strike 25 (Mess up the Mess) a Plentyn yr Eira.

Mae ef wedi perfformio gyda chwmnïau Theatr Genedlaethol Cymru; Theatr Na N’og; yn ogystal â bod yn athro ac yn westai arbennig i'r RSAMD; Sherman Cymru; BAC; y Lyric (Hammersmith); a'r Gate.

Fel sgriptiwr, ysgrifennodd ar gyfer y Fiction Factory ar y gyfres deledu Gymraeg Caerdydd a chafodd ei gomisynu i ysgrifennu dwy ddrama ar gyfer Script Cymru. Mae ei ddrama ddiweddaraf – Llwyth – ar daith o amgylch Cymru a Llundain ar hyn o bryd.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]