Dafydd Andrews

Oddi ar Wicipedia
Dafydd Andrews
GanwydWrecsam Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethnofelydd, cyfieithydd Edit this on Wikidata

Mae Dafydd Andrews yn nofelydd, cyfieithydd ac yn aelod o'r Academi Gymreig. Fe'i ganed yn Wrecsam a chafodd ei addysg yn Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam, Prifysgol Cymru, Bangor a Choleg yr Iesu, Rhydychen. Mae'n byw yn Weston Rhyn ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, ger Croesoswallt.

Ar wahân i’w ddwy nofel, mae wedi cyhoeddi'r unig lyfr yn Gymraeg ar Karate a Jiwdo, rhan o'r gyfres "Dewch i Chwarae", a llyfr teithiau cerdded i gan mynydd uchaf Cymru, sef Cant Cymru.[1]

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

  • Ymwelwyr Annisgwyl a storïau eraill, cyfieithiad o Heinrich Böll (Yr Academi Gymreig, 1980)
  • Karate a Jiwdo (Y Lolfa)
  • Y Twll yn y Wal (Y Lolfa, 1992)
  • Llais y Llosgwr (Y Lolfa, 1994)
  • Cant Cymru (Y Lolfa, 1998)
  • The Welsh One Hundred (Y Lolfa, 1999)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "LiteratureWales.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-05-14. Cyrchwyd 2011-06-25.



Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.