Daearyddiaeth Ffrainc

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae Ffrainc yn wlad fawr yng ngorllewin Ewrop sy'n gorwedd rhwng yr Iwerydd a'r Môr Canoldir. Mae hi'n ffinio â Sbaen ac Andorra yn y de, Yr Eidal, Monaco a'r Swistir yn y dwyrain, a'r Almaen, Luxembourg a Gwlad Belg yn y gogledd-ddwyrain.

Tyfir gwenith yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc, ac yno hefyd mae'r diwydiannau trymion. O gwmpas y maes glo sy'n ymestyn o Béthune hyd at Valenciennes mae'r diwydiannau haearn a dur, cemegau a gweolion. Mae ffatrioedd y cwmni rwber Michelin yn y Massif Central. Yn y de-ddwyrain tyfir gwinwydd, ffrwythau a llysiau ac wrth gwrs mae cynhyrchu gwin yn bwysig yn Ffrainc.

Mae gan Ffrainc amrywiaeth mawr o ran tirwedd, o'r gwastadeddau arfordirol yn y gogledd a'r gorllewin i fynyddoedd yr Alpau a'r Pyreneau yn y de-ddwyrain a'r de-orllewin. Yn yr Alpau Ffrengig y mae Mont Blanc, y mynydd uchaf yng ngorllewin Ewrop gydag uchder o 4810 m. Mae ardaloedd mynyddig eraill yn ogystal, gan gynnwys y Massif central, y Jura, y Vosges, y massif armoricain a'r Ardennes. Mae sawl afon nodedig yn llifo trwy'r wlad, gan gynnwys Afon Loire, Afon Rhône (sy'n tarddu yn y Swistir), Afon Garonne (sy'n tarddu yn Sbaen), Afon Seine, ac Afon Vilaine.

Gweler hefyd[golygu]

Flag of France.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.