Daearyddiaeth Iwerddon

Oddi ar Wicipedia
Mynyddoedd, afonydd a llynnoedd Iwerddon

Mae daearyddiaeth Iwerddon yn disgrifio daearyddiaeth ynys yng ngogledd-orllewin Ewrop. Yn wleidyddol, rhennir yr ynys rhwng Gweriniaeth Iwerddon, sy'n cynnwys y rhan fwyaf o arwynebedd yr ynys, a Gogledd Iwerddon (rhanbarth y DU) yn y gogledd-ddwyrain.

Yn fras, gellir disgrifio nodweddion daearyddol Iwerddon fel gwastadeddau eang yng nghanol yr ynys, gyda mynyddoedd gerllaw'r arfordir yn amgylchynu'r gwastadedd hwn. Y mynydd uchaf yw Corrán Tuathail (Saesneg: Carrauntoohil), ym mynyddoedd Macgillycuddy’s Reeks yn Swydd Kerry yn y de-orllewin, sy'n 1,041 medr (3,414 troedfedd) o uchder. Ymhlith mynyddoedd eraill yr ynys mae Mynyddoedd Wicklow. Ceir nifer sylweddol o ynysoedd o amgylch yr arfordir, yn enwedig oddi ar yr arfordir gorllewinol.

Yr afon fwyaf ar yr ynys yw Afon Shannon, sy'n 259 km (161 millir) o hyd, gydag aber sy'n 113 km (70 milltir) arall o hyd. Mae'n llifo i Fôr Iwerydd ychydig i'r de o ddinas Limerick. Ceir hefyd nifer o lynnoedd sylweddol o faint; Lough Neagh yn y gogledd yw'r mwyaf; Loch Coiribe yn y gorllewin yw'r ail o ran maint, a llyn mwyaf Gweriniaeth Iwerddon. Trydydd llyn Iwerddon o ran maint yw Loch Deirgeirt (Lough Derg) ar Afon Shannon.

Mae gan Iwerddon nifer o ynysoedd, yn enwedig oddi ar yr arfordir gorllewinol. Y fwyaf o'r ynysoedd hyn yw Ynys Achill; mae Ynysoedd Arann ac Ynysoedd Blasket hefyd yn nodedig. Ynys Rathlin yw'r unig ynys oddi ar arfordir Gogledd Iwerddon sydd â phoblogaeth arni.

Eginyn erthygl sydd uchod am Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.