Daeargryn a tsunami Sendai 2011

Oddi ar Wicipedia
Daeargryn a tsunami Sendai 2011
Enghraifft o'r canlynolmegathrust earthquake, tsunami, off Sanriku earthquake, multi-segment earthquake, Q18460157 Edit this on Wikidata
Dyddiad11 Mawrth 2011 Edit this on Wikidata
Lladdwyd19,759 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganMarch 2011 Sanriku earthquake Edit this on Wikidata
LleoliadNorth Pacific Ocean Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethJapan Edit this on Wikidata
Hyd160 eiliad Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Lleoliad y ddaeargryn.
Tokyo wedi'r daeargryn a tsunami Sendai

Daeargryn ar raddfa 9.0 Mw a darodd Sendai yn Japan, am 14:46 amser lleol ar 11 Mawrth 2011 (05:46:23 11 Mawrth UTC) oedd Daeargryn Sendai 2011. Roedd yr uwchganolbwynt yn agos i Sendai ar yr ynys Honshu, tua 130 kilometr (81 milltir) i ffwrdd o draeth dwyreiniol Penrhyn Oshika, Tōhoku, gyda'r canolbwynt oddeutu 24.4 km (15.2 mi) o ddyfnder.[1]

Achosodd y daeargryn i tsunami godi a tharo'r tir mawr ychydig wedyn. Gwelwyd tonnau o hyd at 4-10 metr o uchder.

Ceir adroddiadau fod "trefi cyfan" wedi cael eu golchi i ffwrdd gan y tswnami, a bod 9,500 o bobl ar goll yn Minamisanriku;[2] a bod Kuji ac Ofunato wedi cael eu diddymu "heb olion o'u bodolaeth i'w weld yn unman."[3] Difrodwyd Rikuzentakata, Iwate, hefyd, ble y dywedir fod y tswnami yn dri llawr - o ran uchder.[4]

Effaith ar isadeiledd[golygu | golygu cod]

Atomfeydd[golygu | golygu cod]

Yn dilyn y ddaeargryn, diffoddodd yr adweithyddion niwclear mewn pedair atomfa o fewn yr ardal a effeithwyd yn awtomatig. Methodd systemau oeri y ddwy atomfa yn Fukushima, a dywedodd Cwmni Pŵer Trydanol Tokyo (TEPCO) ei fod yn pwmpio dŵr i brif adweithydd atomfa Fukushima-Daiichi er mwyn ei oeri. Ar 12 Mawrth bu ffrwydrad mawr yn atomfa Fukushima-Daiichi, ac anafwyd pedwar gweithiwr.[5]

Ymateb[golygu | golygu cod]

Ymateb rhyngwladol[golygu | golygu cod]

Dywedodd David Cameron, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, bod y DU yn "barod i gynorthwyo mewn unrhyw modd y gallwn". Cynigwyd cymorth gan y grwpiau chwilio ac achub o Brydain International Rescue Corps a Rapid UK. Mae'r Cenhedloedd Unedig yn cydgordio'r gwaith achub gan 45 o wledydd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. <Gwefan Saesneg y BBC
  2. "Gwefan Saesneg The Mainichi Daily News". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-03-16. Cyrchwyd 2011-03-16.
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-03-13. Cyrchwyd 2011-03-13.
  4. "Wiped off the map: The moment apocalyptic tsunami waves drown a sleepy coast town". Gwefan y Daily Mail.
  5. (Saesneg) Huge blast at Japan nuclear power plant. BBC (12 Mawrth 2011).
Eginyn erthygl sydd uchod am Japan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato