Daeargi Tarw

Oddi ar Wicipedia
Daeargi Tarw
Enghraifft o'r canlynolbrîd o gi Edit this on Wikidata
Mathci Edit this on Wikidata
GwladGweriniaeth Iwerddon Edit this on Wikidata
Enw brodorolBull Terrier Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Daeargi sy'n tarddu o Loegr yw'r Daeargi Tarw.[1] Datblygodd yn y 19eg ganrif o'r Ci Tarw, y Daeargi Gwyn Seisnig, a'r Ci Dalmataidd, ac o bosib y Cyfergi Sbaenaidd, y Ci Cadno a'r Milgi. Cafodd ei fridio fel ci ymladd.[2]

Mae ganddo daldra o 53 i 56 cm (21 i 22 modfedd) ac yn pwyso 23 i 27 kg (50 i 60 o bwysau). Ceir hefyd y Daeargi Tarw Bychan, sy'n 25 i 35 cm (10 i 14 modfedd) ac yn pwyso 11 i 15 kg (24 i 33 o bwysau). Mae'n gyhyrog iawn ac mae ganddo gynffon bigfain, clustiau sy'n sefyll i fyny, llygaid bychain, trionglog sy'n ddwfn yn y pen, a phen sy'n debyg i siâp wy. Mae ganddo gôt fer o flew a all fod yn wyn (weithiau gyda marciau tywyll ar y pen) neu'n lliw arall (gan gynnwys marciau rhesog). Mae'n un o'r bridiau cryfaf o gŵn, ond yn gi ffyddlon a chwareus.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Geiriadur yr Academi, terrier1 > bull-terrier.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) bull terrier. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 5 Hydref 2014.