Daeargi Norwich

Oddi ar Wicipedia
Daeargi Norwich
Enghraifft o'r canlynolbrîd o gi Edit this on Wikidata
MathDaeargi Edit this on Wikidata
GwladLloegr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Daeargi sy'n tarddu o Loegr yw Daeargi Norwich. Cafodd ei ddatblygu tua 1880, a daeth yn boblogaidd iawn gan fyfyrwyr Prifysgol Caergrawnt. Defnyddiwyd yn hwyrach gan nifer o glybiau hela Americanaidd, yn enwedig i hela cwningod.[1]

Mae'n gi twt gyda phen llydan a chlustiau sy'n sefyll i fyny, ac mae ganddo gôt drwchus, gwrychog sy'n gwrthsefyll y tywydd a gan amlaf o liw brown-goch. Mae ganddo daldra o 25 cm (10 modfedd) ac yn pwyso 4.5 i 6.5 kg (10 i 14 o bwysau). Mae'n gi durol a ffyddlon.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Norwich terrier. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Medi 2014.