Daeareg

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Daearegol)
Craig yng "Ngerddi'r Duwiau" yn Colorado Springs, UDA

Astudiaeth o'r ddaear ffisegol yw Daeareg neu Geoleg (Groeg: γη- sef ge-, "y ddaear" a λογος, sef logos, "gwyddoniaeth"). Mae'n cynnwys astudiaeth o greigiau solid a chramen y Ddaear. Gellir dyddio'r creigiau hyn, a rhennir hanes y ddaear yn gyfnodau daearegol. Gall y gair 'daeareg' hefyd gyfeirio at yr astudiaeth o greigiau a cherrig planedau a ffurfiau eraill yn y gofod e.e. daeareg y Lleuad.

Drwy'r maes hwn ceir cip cliriach o hanes y Ddaear; mae daeareg yn astudiaeth o dystiolaeth cynradd o blatiau tectonig, esblygiad bywyd ar y Ddaear a newid yn hinsawdd y Ddaear. Fe'i defnyddir hefyd yn yr astudiaeth o fwynau, eu cloddio a'u marchnata; felly hefyd gyda phetroliwm a hydrocarbonau eraill. Mae'r astudiaeth o ddŵr y môr a dŵr croyw hefyd yn seiliedig ar astudiaeth o'r maes hwn, yn ogystal â pheryglon naturiol daearyddol a phroblemau gyda'r amgylchedd.

Ynysoedd Prydain[golygu | golygu cod]

Mae daeareg Ynysoedd Prydain yn enwog am ei amrywiaeth gyfoethog o greigiau a cheir enghreifftiau o bron yr holl oedoedd daearegol o'r Archaean ymlaen.

Mae ymchwil seismograffig yn dangos bod crwst y Ddaear rhwng 27 a 35 km (17 i 22 milltir) o drwch. Mae'r creigiau hynaf i'w cael yng ngogledd orllewin yr Alban ac maent yn fwy na hanner oed blaned. Credir bod y creigiau hyn i'w cael hefyd, yn isel o dan llawer o Brydain - dim ond y cilometrau cyntaf y mae tyllau turio wedi eu treiddio. Gwelir yr un creigiau yn Llydaw, ac felly, credir eu bod yn rhedeg yn isel dan yr wyneb o'r ardal i Lydaw. Mae'r creigiau ieuengaf i'w cael yn ne-ddwyrain Lloegr.

Cymru[golygu | golygu cod]

Mae'r Cyfoeth Naturiol Cymru yn dewis safleodd pwysig er mwyn eu gwarchod ac yn eu rhestru ar yr Arolwg Cadwraeth Daearegol (ACD). Mae dau fath o safle sef Safle Daearegol Rhanbarthol Pwysig (SDRhP) a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SDGA). Hefyd mae UNESCO wedi dynodi dau GeoParc yng Nghymru sef Fforest Fawr a GeoMôn.

Mae Geoparc Fforest Fawr y tu mewn i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ne Cymru. Mae GeoMôn yn cynnwys Ynys Môn i gyd ar sail y ffaith fod Môn yn ynys tectonig. Ceir Creigiau hynaf y byd a elwyr yn Cyn-Cambriaidd ar Ynys Môn sydd dros 500 miliwn o flynyddoedd oed hyd at y creigiau ieuengaf heblaw am greigiau yr oes Juraisg ac Oes y Calchfaen. Tiriogaeth sy’n cynnwys un neu fwy o leoliadau o bwysigrwydd gwyddonol, sydd o werth archeolegol ecolegol a diwylliannol yn ogystal â bod o ddiddordeb daearegol yw GeoParc. Mae yna dros 50 Geoparc yn Ewrop.

Rhaniadau yn yr Oes Palaeosoig[golygu | golygu cod]

Mae'r tri rhaniad neu gyfnod wedi eu henwi ar ôl hynafiaethau Cymreig neu Geltaidd, sef y cyfnodau:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd: Daeareg Cymru
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Chwiliwch am daeareg
yn Wiciadur.