Dadleuon etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2010

Oddi ar Wicipedia
Dadleuon etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2010
Enghraifft o'r canlynoldadl yr weinyddion Edit this on Wikidata
Dyddiad2010 Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gordon Brown David Cameron Nick Clegg

Mae dadleuon etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2010 yn cyfeirio at gyfres o dair dadl a ddarlledwyd yn fyw rhwng arweinwyr y tair brif blaid gwleidyddol oedd yn sefyll yn y Deyrnas Unedig. Dyma'r tro cyntaf i ddadl fyw o'r fath gael ei chynnal mewn ymgyrch etholiadol yn y DU. Yn y drafodaeth rhwng yr arweinwyr, bu'r Prif Weinidog ac arweinydd y Blaid Lafur Gordon Brown yn dadlau gydag arweinydd yr Wrthblaid ac arweinydd y Blaid Geidwadol, David Cameron yn ogystal â Nick Clegg, arweinydd trydedd blaid fwyad y DU, y Democratiaid Rhyddfrydol. Ni chaniatawyd bod arweinwyr y pleidiau y gwledydd datganoledig yn cael cymryd rhan, mewn hyd yn oed un o rhain.

Cynhyrchir y tair dadl rhwng yr arweinwyr, a fydd yn cael eu darlledu heb doriad am 90 munud yr un, gan ITV, BSkyB a'r BBC. Alastair Stewart, Adam Boulton a David Dimbleby fydd yn llywyddu'r trafodaethau. Yn ystod pob dadl bydd pob arweinydd yn gorfod ateb cwestiynau na fydd yn hysbys iddynt, ond a fydd yn cael eu dethol gan y darlledwyr. Caiff y cwestiynau eu gofyn gan naill ai'r gynulleidfa neu drwy e-bost. Ar gyfer pob cwestiwn, bydd pob arweinydd yn ateb yn gyntaf yn eu tro am funud, ac yna ceir cyfnod o drafodaeth agored am hyd at 4 munud.

Y dadleuon[golygu | golygu cod]

Y ddadl gyntaf - Materion cartref[golygu | golygu cod]

Arolygon ar gyfer enillydd y ddadl gyntaf

Dywedodd arolygon yn syth ar ôl y rhaglen gyntaf mai Nick Clegg oedd yr enillydd:

Cyhoeddwyd trawsgrifiad o'r ddadl.[4]

Yr ail ddadl - Materion rhyngwladol[golygu | golygu cod]

  • Teitl: The Sky News Debate
  • Dyddiad: 22 Ebrill 2010; 8 yh
  • Sianel: Sky News, Sky News HD
  • Lleoliad: Bryste
  • Cynhyrchydd: British Sky Broadcasting
  • Cymedrolwr: Adam Boulton
  • Îs-themâu: Perthynas rhyngwladol; Affghanistan; Irac; Iran; Y Dwyrain Canol; Amddiffyn y DU; terfysgaeth rhyngwladol; Ewrop; Newid hinsawdd; Tsieina; Datblygiad rhyngwladol

Y trydydd dadl - Materion economaidd[golygu | golygu cod]

  • Teitl: The Prime Ministerial Debate
  • Dyddiad: 29 Ebrill 2010; 8:30 yh
  • Sianel: BBC One, BBC HD, BBC News Channel
  • Lleoliad: Birmingham
  • Cynhyrchydd: BBC
  • Cymedrolwr: David Dimbleby
  • Îs-themâu: Ariannu gwasanaethau cyhoeddus; Trethi; Dyled; Diffyg arian; Coffrau cyhoeddus; Dirwasgiad; Adferiad; Bancio ac arian; Busnes; Pensiynau; Swyddi

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Clegg judged election debate winner". Reuters. 15 Ebrill 2010. Adalwyd ar 15 Ebrill 2010.
  2. "Clegg Up: Lib Dem Leader Wins TV Debate". Sky News. 15 Ebrill 2010. Adalwyd ar 15 Ebrill 2010.
  3. "Poll says Clegg is runaway winner". The Times. 16 Ebrill 2010. Adalwyd ar 15 Ebrill 2010.
  4. Trawsgrifiad - First prime ministerial debate, 15 Ebrill 2010.