DEMO

Oddi ar Wicipedia
DEMO
Enghraifft o'r canlynolmudiad gwleidyddol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2000 Edit this on Wikidata
Aelodau o fudiad DEMO yn creu golygfa damwain car i bwysleisio'r ffaith bod rhaid i deuluoedd carcharorion gwleidyddol Basgaidd deithio pellteroedd maith i ymweld â'u perthnasau.
Protest dros arwyddion Basgeg yng ngorsaf drenau Baiona, Iparralde (2002_

Mudiad pwyso yw Demokrazia Euskal Herriarentzat neu DEMO (hefyd DEMOAK) ("Democratiaeth i Wlad y Basg") ar gyfer hawliau siaradwyr Basgeg yn Iparralde (rhan ogleddol Gwlad y Basg sydd yn Ffrainc). Ffurfiwyd y mudiad yn y flwyddyn 2000.

Nod y mudiad[golygu | golygu cod]

  • Bod llywodraeth Ffrainc yn datblygu polisi iaith effeithiol ar gyfer y defnydd o'r Fasgeg o fewn addysg ac yn gyffredinol.
  • Sefydlu polisi ar gyfer yr holl sefydliadau yng ngogledd Gwlad y Basg, gan greu Department Basgaidd newydd yno.
  • Bod hawliau carcharorion gwleidyddol Basgaidd yn cael eu parchu, fel eu bod yn cael eu lleoli yn agos i'w cartrefi (fel rheol cânt eu gwasgaru ar hyd a lled Ffrainc a Sbaen, yn groes i ddeddfau cenedlaethol, Ewropeaidd, a rhyngwladol).

Tactegau[golygu | golygu cod]

Mae'r mudiad yn dilyn athroniaeth dull di-drais o ymgyrchu. Yn aml mae gweithgareddau'r mudiad yn cyfuno protest, difrod troseddol a chelfyddyd. Yn y gorffennol mae hyn wedi cynnwys:

  • Addurno'r ochr y ffordd i Ascain-Saint-Jean-de-Luz am 3 cilomedr gyda 500 o luniau carcharorion gwleidyddol Basgaidd sydd wedi eu gwasgaru mewn carchardai ar hyd a lled Ffrainc a Sbaen.
  • Atal awyren rhag gadael maes awyr Biarritz, drwy gadwyno ei holwynion.
  • Atal y TGV rhwng Hendaia a Paris wrth i 20 o brotestwyr gadwyno eu hunain i'r cledrau.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]