David Myrddin Lloyd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o D. Myrddin Lloyd)
David Myrddin Lloyd
Ganwyd15 Ebrill 1909 Edit this on Wikidata
Fforest-fach Edit this on Wikidata
Bu farw17 Awst 1981 Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethperson dysgedig Edit this on Wikidata

Awdur a golygydd Cymraeg oedd David Myrddin Lloyd (15 Ebrill 190917 Awst 1981), yn ysgrifennu fel D. Myrddin Lloyd.

Ganed ef yn Fforest-fach, ac aeth i Brifysgol Abertawe ac yna i Ddulyn, cyn mynd yn llyfrgellydd. Bu'n Geidwad Llyfrau Printiedig Llyfrgell Genedlaethol yr Alban o 1953 hyd 1974.

Bu farw Lloyd yn annisgwyl yn 72 oed ym Morlaix, Llydaw tra roedd ef, e'i wraig a grŵp o gyfeillion ar ymweliad â'r wlad.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Y Bywgraffiadur Cymreig - Lloyd, David Myrddin. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 12 Mawrth 2016.

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

  • Beirniadaeth lenyddol (1962)
  • Emrys ap Iwan (Writers of Wales) (1974)
  • Rhai agweddau ar ddysg y Gogynfeirdd (1977)