David Rees Davies
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth D. Cledlyn Davies)
Ysgolfeistr, hanesydd lleol a bardd Cymraeg oedd David Rees Davies, enw barddol Cledlyn a oedd hefyd yn ysgrifennu fel D. Cledlyn Davies (6 Chwefror 1875 - 1964).
Ganed ef yng Nghwrtnewydd, Ceredigion. Aeth i Goleg Prifysgol Aberystwyth yn 1894, cyn mynd yn athro. Bu'n brifathro ysgol Cwrtnewydd o 1902 hyd ei ymddeoliad yn 1935.
Fel bardd, enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, yn Nghorwen 1919 am awdl Y proffwyd, ac yn yr Wyddgrug 1923 am awdl Dychweliad Arthur. Bu'n llywydd Cymdeithas Undodaidd Deheudir Cymru yn 1920, ac fel hanesydd lleol ysgrifennodd Hanes plwyf Llanwenog (1936) gyda'i ail wraig.